grahamcone

Y Sesiwm

Beth yw niwroamrywiaeth?
Amodau niwrowahanol
Eich ‘plentyn mewn golwg’
Y cynnig yn ysgolion Cymru
Y safonau addysgu
Cefnogaeth gyffredinol ac anghenion unigol
Gweithio gyda’ch ysgol
Llunio cynllun ar gyfer eich plentyn
Atebion i’ch cwestiynau

Y Cyflwynydd

Mae Catrina Lowri yn niwrowahanol, gyda diagnosis deuol o ddyslecsia ac anhwylder deubegynol a nodweddion ADHD, dyspracsia ac Anhwylder Prosesu Clywedol. Mae hi’n athrawes anghenion arbennig gymwys, yn Gydlynydd AAA ac yn athrawes ymgynghorol brofiadol. Mae hi’n defnyddio ei statws unigryw fel arbenigwr trwy brofiad, ac athrawes, gyda 23 mlynedd o brofiad o weithio gyda disgyblion yng Nghymru a Lloegr fel ysbrydoliaeth. Mae hi’n helpu ysgolion i wella ymddygiad, presenoldeb a chyrhaeddiad ymhlith disgyblion o bob niwrodeip.

Sefydlodd Catrina Neuroteachers i helpu lleoliadau addysg i weithio gyda’u dysgwyr niwrowahanol i ganfod datrysiadau syml ar gyfer arferion cynhwysol ar gyfer y dysgwyr hyn. Mae tîm Neuroteachers yn gwneud hyn trwy hyfforddiant, mentora a newid diwylliant mewn meithrinfeydd, ysgolion a cholegau.

I archebu lle defnyddiwch y ddolen hon

Sylwer: mae’r sesiwn hon i rieni a gofalwyr yn unig