Waeth beth yw eu hoedran, gall plant a phobl ifanc fod angen cefnogaeth emosiynol, am lawer o resymau.

Os ydych chi’n rhiant neu’n ofalwr, mae gennym adnoddau a allai helpu.

Mae hefyd gennym A-Z o adnoddau ar gyfer pobl ifanc ar gael yma.

Mae’r dudalen hon yn parhau i gael ei datblygu. Os oes gennych unrhyw syniadau neu adnoddau yr hoffech eu rhannu,byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.

Rhieni, gofalwyr a niwroddatblygiad

Er ein bod yn cynnig gwasanaethau i blant a phobl ifanc o dan 18 oed, rydym yn cydnabod y gallai fod angen cymorth ar yr oedolion yn eu bywydau hefyd.

Apiau ac Adnoddau

Isod, mae gennym rai adnoddau fel man cychwyn. Gallwch gysylltu â ni os oes gennych adnoddau ychwanegol i’w rhannu neu os oes pynciau yr hoffech glywed mwy amdanynt.

Nid yw’r adnoddau, yr apiau a’r llinellau cymorth hyn yn rhan o’r gwasanaethau a ddarperir gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro (oni nodir yn wahanol).

  • Nid ydym yn gyfrifol am y cynnwys allanol a grybwyllir ar y wefan hon.

Gwasanaethau a Llinellau Cymorth

Cymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth Cymru

Gwybodaeth am arwyddion cynnar, symptomau, asesiad a thriniaeth. Gweler gwefan Cymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth Cymru

Y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl

Mae gwefan y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl yn cynnwys gwybodaeth ac adnoddau defnyddiol  ar Anhwylder Sbectrwm Awtistiaeth.   

Awtistiaeth Cymru

Awtistiaeth Cymru, safle awtistiaeth cenedlaethol ar gyfer Cymru.  Ar y safle, gallwch ddod o hyd i wybodaeth am beth yw awtistiaeth ac mae ystod eang o adnoddau ar gael i’w lawrlwytho am ddim sydd wedi’u datblygu ochr yn ochr â phobl awtistig, rhieni/gofalwyr a gweithwyr proffesiynol o bob rhan o Gymru.

ADHD Foundation Neurodiversity Charity

Yn darparu amrywiaeth o wasanaethau iechyd ac addysg integredig. Edrychwch ar eu gwefan am ragor o wybodaeth.

Children and Adults with ADHD 

Sefydliad nid-er-elw mwyaf blaenllaw y DU ar gyfer y rhai y mae ADHD yn effeithio arnynt. Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth ar wefan CHADD

UK ADHD Partnership 

Yn cefnogi clinigwyr a gweithwyr proffesiynol perthynol i nodi a diwallu anghenion plant a phobl ifanc y mae’r anhwylder hwn yn effeithio arnynt. Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth ar wefan UK ADHD Partnership

Action for Children

Mae Gweithredu dros Blant yn cynnal sgyrsiau un i un dros y we i roi cyfle i rieni a gofalwyr siarad â hyfforddwr rhianta cymwys.

Gellir cael mynediad ato o ddydd Llun i ddydd Gwener trwy gyfrwng gwe-sgwrs ac e-bost – edrychwch ar y wefan am ragor o fanylion.

The Care Collective

Yn darparu Porth Gofalwyr Caerdydd a’r Fro sy’n cefnogi gofalwyr di-dâl ac yn gweithredu fel porth i wasanaethau sydd ar gael yn lleol. Yn gallu darparu grantiau a gwasanaethau lles, gwybodaeth, cyngor a chymorth am ddim. Mae rhagor o wybodaeth ar wefan The Care Collective

Dulliau Cadarnhaol Cynnar ar gyfer Cynorthwyo (EPAtS)

Rhaglen 8 wythnos ar gyfer teuluoedd sy’n magu plentyn ifanc (5 oed ac iau) lle awgrymwyd oedi datblygiadol. Mae angen asesiad SOGS (Schedule of growing skills) gan Ymwelydd Iechyd i gael mynediad at y rhaglen EPAtS. .

Ar gyfer atgyfeiriadau yng Nghaerdydd, cysylltwch â Chyngor a Chymorth i Deuluoedd Caerdydd ar 03000 133 133.

Ar gyfer atgyfeiriadau yn y Fro, cysylltwch â Llinell Gyngor Teuluoedd yn Gyntaf ar 08000 327 322.

Gingerbread Wales

Mae Gingerbread yn cynnig gwasanaethau am ddim i rieni sengl, gan gynnwys llinell gymorth, tudalennau gwybodaeth, fforwm ar-lein a grwpiau cyfeillgarwch.

Gallwch gysylltu â’r llinell gymorth ar 0808 802 0925 edrychwch ar eu gwefan am oriau agor.

Kidscape

Mae Kidscape yn cynnig llinell gymorth a gwasanaeth e-bost i rieni, gofalwyr ac oedolion eraill sydd â phryderon am blentyn neu berson ifanc yn cael ei fwlio.

Gallwch gysylltu â’r llinell gymorth  ar 02078 235 430 rhwng 9:30am – 2:30pm dydd Llun a dydd Mawrth, gadael neges neu e-bostio parentsupport@kidscape.org.uk

SNAP Cymru

Gwybodaeth, cyngor a chefnogaeth i rieni, plant a phobl ifanc sydd ag, neu a allai fod ag anableddau neu anghenion addysgol arbennig. Yn cynnwys llinell gymorth, gwaith achos, cyngor ar wahaniaethu, eiriolaeth annibynnol a gwasanaethau datrys anghytundebau.

Mae’r llinell wybodaeth a chyngor ar gael o ddydd Llun i ddydd Gwener 9.30am – 4.30pm ar 0808 801 608.

C.A.L.L. – Llinell Gymorth Iechyd Meddwl ar gyfer Cymru

Llinell Wrando a Chymorth Cymunedol sy’n cynnig gwasanaeth gwrando a chymorth cyfrinachol.

Mae Llinell Gymorth C.A.L.L. ar gael 24 awr y dydd, bob dydd o’r flwyddyn i unrhyw un sy’n ffonio o Gymru.

Mae’n wasanaeth dwyieithog, sy’n golygu y gall y sawl sy’n galw ddewis siarad â gweithredwr y llinell gymorth yn Gymraeg neu’n Saesneg.

Darganfyddwch fwy am y gefnogaeth yn ymwneud â Niwrowahaniaeth a gynigir gan Linell Gymorth C.A.L.L..

Ffoniwch radffôn 0800 132 737 neu tecstiwch help at 81066.

Therapi Galwedigaethol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro

Mae ein tîm o Therapyddion Galwedigaethol o Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro wedi datblygu nifer o adnoddau y gallwch gael mynediad atynt, gan gynnwys fideos sy’n archwilio agweddau allweddol ar Therapi Galwedigaethol ar gyfer plant a phobl ifanc.

Ewch i ‘fideos ac adnoddau’ lle mae gweithdy i rieni i’w wylio ar ddeall prosesu synhwyraidd.  Os ydych wedi defnyddio’r holl adnoddau ar-lein ac os oes gennych bryderon galwedigaethol neu synhwyraidd o hyd, gallwch ofyn am fynediad at fewnbwn Therapi Galwedigaethol uniongyrchol gan ddefnyddio ein ‘tudalen cais am gymorth’.

Trafferthion Mynd i’r Tŷ Bach

Mae’r Gwasanaeth Niwroddatblygiadol yn argymell gwefannau ERIC elusen plant yn ymwneud â’r coluddyn a’r bledren ac Bladder and Bowel UK fel ffynonellau gwybodaeth dibynadwy i helpu gyda thrafferthion mynd i’r tŷ bach.

Cefnogaeth yng Nghaerdydd

Cyngor a Chymorth i Deuluoedd Caerdydd

Gwasanaeth cymorth cynnar yng Nghaerdydd. Maent yn cynnig cyngor a chefnogaeth i blant, pobl ifanc a theuluoedd, yn ogystal â’r gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio’n uniongyrchol â nhw.

Gallant hefyd gyfeirio teuluoedd at wasanaethau eraill sydd yn y sefyllfa orau i’w helpu i gyflawni eu nodau. Gallwch ddarganfod mwy ar eu gwefan.

Rhif ffôn: 03000133133

Cymorth Budd-daliadau Anabledd

Cyngor arbenigol ar gyfer gwneud cais am fudd-daliadau anabledd fel Lwfans Byw i’r Anabl (DLA), Taliadau Annibyniaeth Personol (PIP) a Lwfans Gofalwr.

Cysylltwch dros y ffôn: 02920 871 071 neu e-bostiwch: disabilitybenefitsupport@cardiff.gov.uk

Home-Start Cymru 

Yn cynnig cyfeillgarwch, cefnogaeth emosiynol a chyngor ymarferol i deuluoedd sy’n cael anhawster wrth ymdopi â rhianta am amrywiaeth o resymau, gan gynnwys iechyd meddwl gwael, rheoli ymddygiad heriol plant, anabledd, cam-drin domestig, ynysigrwydd neu hunan-barch isel. Derbynnir atgyfeiriadau ar gyfer unrhyw blentyn hyd at 5 oed. Darganfyddwch fwy ar wefan Home-Start Cymru.

Y Mynegai

Mae Y Mynegai ar gyfer teuluoedd sydd â phlant 0-18 oed, sydd ag anabledd neu anghenion ychwanegol ac sy’n byw yng Nghaerdydd. Gall unrhyw riant sydd â phlentyn 0-18 oed sydd ag anableddau neu anghenion ychwanegol gofrestru i’r mynegai drwy lenwi’r ffurflen gofrestru ar-lein. Trwy gofrestru, byddwch yn derbyn gwybodaeth am wasanaethau, gweithgareddau, cefnogaeth a digwyddiadau lleol. Darganfyddwch fwy am Y Mynegai ar eu gwefan.

Grŵp Un / One Group

Grwpiau aros a chwarae yng Nghaerdydd ar gyfer plant 0-5 oed ag anghenion ychwanegol, a’u rhieni. Cyngor a chefnogaeth gan weithwyr proffesiynol ym maes Iechyd, Addysg, y Trydydd Sector a Gofal Cymdeithasol tra bod eich plentyn yn chwarae. Yn ystod y tymor yn unig. Nid oes angen diagnosis nac atgyfeiriad.

Gellir dod o hyd i wybodaeth am y grwpiau yma:

X: @grwp1group
Facebook: Grwp1Group
Neu drwy gysylltu â nhw dros y ffôn: 029 2067 1466

Cefngaeth yn y fro

Teuluoedd yn Gyntaf

Llinell Gyngor Teuluoedd yn Gyntaf yw’r pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer rhieni, gofalwyr a gweithwyr proffesiynol sydd â phlant 0-18 oed sy’n byw ym Mro Morgannwg, neu sy’n gweithio gyda nhw. Gall y tîm gynnig gwybodaeth a chyngor ar amrywiaeth o bynciau, gan gynnwys; Iechyd a Lles, Teulu, Tai a Chyllid, ac Addysg gyda’r nod o gefnogi teuluoedd i ddatrys eu problemau a’u cyfeirio at wasanaethau eraill.

Rhif ffôn: 0800 0327 322. 

Y Mynegai

Mae Y Mynegai ar gyfer teuluoedd sydd â phlant 0-18 oed, sydd ag anabledd neu anghenion ychwanegol ac sy’n byw ym Mro Morgannwg. Cofrestrwch a byddwch yn derbyn gwybodaeth am wasanaethau, gweithgareddau, cefnogaeth a digwyddiadau lleol.

Rhif ffôn:  0800 587 1014 

Grŵp Enfys

Grŵp aros a chwarae ym Mro Morgannwg ar gyfer plant 0-5 oed ag anghenion ychwanegol, a’u rhieni. Yn ystod y tymor yn unig. Mae rhagor o wybodaeth am Grŵp Enfys ar gael ar DEWIS.

Adnoddau

Mae nifer o wasanaethau o fewn y gyfarwyddiaeth wedi dod ynghyd i gynhyrchu’r adnoddau canlynol: