Gall gwybod beth allwn ni ei wneud i ofalu amdanom ein hunain neu ble i fynd am gyngor ein helpu i deimlo’n well a chael gwell perthynas gyda’r bobl o’n cwmpas – heddiw ac yn y dyfodol. Mae’r tîm Niwroddatblygiadol wedi casglu ynghyd set o adnoddau i helpu gyda phroblemau y gall plant a phobl ifanc eu hwynebu sy’n cael eu cyfeirio i gael asesiad niwroddatblygiadol.

Nid yw’r adnoddau, yr apiau na’r llinellau cymorth hyn yn rhan o’r gwasanaethau a ddarperir gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro (oni nodir yn wahanol).

  • Nid ydym yn gyfrifol am y cynnwys allanol a grybwyllir ar y wefan hon.
  • Dylech bob amser ddarllen Telerau ac Amodau a Pholisi Preifatrwydd ap i weld sut y gallai eich data gael ei ddefnyddio.

Gorbryder

Mae pryder yn ymateb dynol naturiol i sefyllfaoedd sy’n achosi straen ac mae’n deimlad normal iawn.

Fodd bynnag, gall fod yn frawychus teimlo’n bryderus os nad ydym yn gwybod pam rydym yn teimlo fel hyn neu os yw’n para am amser hir.

Ewch i’n tudalen ni i ddysgu mwy.

Mae’r ap hwn yn eich helpu i wynebu eich ofnau gyda thechnegau anadlu, ymlacio ac ymwybyddiaeth ofalgar i’ch helpu i newid eich meddyliau a’ch ymddygiadau

Mae Meic yn llinell gymorth gwybodaeth ac eiriolaeth ar gyfer plant a phobl ifanc 0-25 oed yng Nghymru.

Gallwch siarad ag ymgynghorydd cyfeillgar am unrhyw beth sy’n eich poeni.

Mae Meic ar agor o 8am i hanner nos, 7 diwrnod yr wythnos. Gallwch gysylltu â nhw am ddim ar y ffôn (080880 23456), neges destun (84001) neu sgwrs ar-lein.

Mae’r ap hwn yn helpu i reoli pryder. Mae’r traciwr gorbryder yn eich helpu i ddeall pethau sy’n gwneud i chi deimlo’n bryderus, ac mae’r pecyn cymorth hunangymorth yn cynnig technegau i reoli pryder trwy ymarferion hunangymorth a myfyrdod preifat.

Mae hwn yn llyfr gwaith hunangymorth i bobl ifanc mewn ysgolion uwchradd a allai fod yn dioddef gorbryder. Mae’n egluro beth yw gorbryder, a sut deimlad yw hyn, ond yn bennaf mae’n cynnig cyngor a gweithgareddau ymarferol y gallwch eu gwneud os ydych yn cael trafferthion â theimladau pryderus.

I rai pobl ifanc, mae modd defnyddio’r llyfr gwaith hwn yn syml drwy ddarllen pob bennod a chwblhau’r gweithgareddau ar gyfer pob un. Ond gall fod yn ddefnyddiol gweithio drwyddo (neu rannau ohono) gydag oedolyn rwyt ti’n ymddiried ynddo er mwyn iddo allu dy gefnogi.

Llyfr gwaith hunangymorth yw hwn i bobl ifanc a allai fod yn dioddef gorbryder yn ymwneud â’r ysgol. Mae’n egluro beth yw gorbryder, a sut deimlad yw hyn, ond yn bennaf mae’n cynnig cyngor a gweithgareddau ymarferol y gallwch eu gwneud os ydych yn cael trafferthion mynd i’r ysgol oherwydd gorbryder.

I rai pobl ifanc, mae modd defnyddio’r llyfr gwaith hwn yn syml drwy ddarllen pob bennod a chwblhau’r gweithgareddau ar gyfer pob un. Ond gall fod yn ddefnyddiol gweithio drwyddo (neu rannau ohono) gydag oedolyn rwyt ti’n ymddiried ynddo er mwyn iddo allu dy gefnogi.

Ymarferion anadlu, cerddoriaeth i’ch helpu i ymlacio a gemau i helpu i dawelu’ch meddwl a newid meddyliau negyddol.

Am ddim, mae modd prynu pethau’n yr ap ei hun.

Lawrlwythwch ef am ddim yn yr App Store neu Google Play

Profedigaeth (mae rhywun sy’n agos ataf wedi marw)

Mae colli rhywun sy’n bwysig i chi yn un o heriau mwyaf bywyd, waeth beth fo’ch oedran. Gelwir hyn yn ‘brofedigaeth’.

Cymerwch olwg ar ein tudalen ar y wefan Lles Emosiynol ac Iechyd Meddwl am fwy o wybodaeth am sut y gallech chi deimlo yn ystod y cyfnod anodd hwn.

Wedi’i ddatblygu gan Child Bereavement UK a phobl ifanc mewn profedigaeth, mae’r wefan hon yn rhoi gwybodaeth, profiadau bywyd go iawn am deimladau a brofir yn dilyn marwolaeth rhywun annwyl, a chyngor ar ble i gael gafael ar gymorth pellach.

Mae ganddyn nhw hefyd linell gymorth, cymorth drwy e-bost a sgwrs fyw ar gael 9 am – 5 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

I gysylltu â nhw:

  • Ffoniwch y llinell gymorth ar 0800 02 888 40
  • E-bostwch helpline@childbereavementuk.org
  • Sgwrs fyw ar y wefan drwy glicio ar yr eicon neu flwch glas ‘Sgwrsio gyda ni’

Gwefan i bobl ifanc sy’n cynnig cyngor pan fydd rhywun yn marw, adnoddau defnyddiol a straeon personol gan bobl ifanc eraill sydd wedi profi colled.

Mae gan Cruse Bereavement Care, sy’n rhedeg y wefan, linell gymorth a gwybodaeth hefyd ar gyfer Caerdydd a Bro Morgannwg, sydd ar agor ar ddydd Mercher, 10am – 12pm.

I gysylltu â nhw:

Mae gan Cruse hefyd linell gymorth genedlaethol sydd ar agor bob dydd – fel arfer rhwng 9.30am a 5pm yn ystod yr wythnos a rhwng 10am a 2pm ar benwythnosau.
Cysylltwch â nhw drwy ffonio 0808 808 1677

Mae Marie Curie yn cynnig gofal, arweiniad a chymorth i bobl sy’n byw gydag unrhyw salwch angheuol a’u teuluoedd

Maent hefyd yn cynnig llinell gymorth sy’n cynnig gwybodaeth ymarferol a chlinigol a chymorth emosiynol – ar agor 8am – 6pm yn ystod yr wythnos ac 11am – 5pm ar ddydd Sadwrn.

I gysylltu â nhw:

  • Ffoniwch 0800 090 2309
  • Sgwrs fyw ar wefan Marie Curie

Mae Winston’s Wish yn rhoi cymorth profedigaeth emosiynol ac ymarferol i blant, pobl ifanc hyd at 25 oed, eu teuluoedd a’r rhai sy’n gofalu amdanynt.

Mae ganddynt linell gymorth am ddim lle gallwch gael cyngor, arweiniad a chefnogaeth ar unwaith gan weithwyr proffesiynol profedigaeth hyfforddedig (ar agor 9am – 5pm yn ystod yr wythnos).

Mae cymorth arbenigol parhaus hefyd ar gael i’r rhai sydd ei angen.

I gysylltu â nhw:

  • Ffoniwch 08088 020 021
  • E-bostiwch ask@winstonswish.org
  • Sgwrs ar-lein (prynhawniau Mawrth a boreau Gwener)

Bwlio

Bwlio yw pan fydd rhywun yn brifo’n gorfforol neu’n cam-drin person arall ar lafar. Gall gynnwys plagio rhywun yn ddiangen, gwneud i bobl deimlo’n ddrwg amdanynt eu hunain a gadael rhywun allan yn fwriadol.

Ewch i’n tudalen ar fwlio am fwy o wybodaeth ac adnoddau.

Gwybodaeth ac adnoddau am fwlio.

Maent hefyd yn cynnig gwasanaeth e-fentora i’r rhai sydd wedi’u heffeithio gan ymddygiad bwlio, bwlio hanesyddol a materion eraill a achosir gan ymddygiad bwlio

Mae’r Bullying Support Hub yn cynnig llawer o adnoddau ac awgrymiadau os ydych chi’n cael eich effeithio gan fwlio.

Gwybodaeth gan Brook ar sut y gall bwlio ar-lein wneud i chi deimlo a sut i’w goresgyn.

Addysg ac Ysgolion

Rhestr wirio o weithgareddau a thechnegau cydbwyso i ddysgwyr roi cynnig arnynt yn ystod y cyfnod pontio, ochr yn ochr ag oedolyn dibynadwy.

Lles emosiynol

Mae lles emosiynol ac iechyd meddwl yn bwnc mawr iawn a gall effeithio ar bob un ohonom mewn gwahanol ffyrdd.

Mae llawer o adnoddau cyffredinol am les emosiynol bob dydd a allai fod yn ddefnyddiol i chi.

Adnoddau am ddim ar amrywiaeth o bynciau i rieni / gofalwyr a’u plant gan Bridge the Gap.

Mae Feeling Good yn cynnig rhaglenni sain Hyfforddiant Meddwl Cadarnhaol yn seiliedig ar ymchwil wyddonol a all eich helpu i deimlo’n well, codi eich hwyliau ac adfer o straen, pryder ac iselder trwy feithrin gwytnwch a datblygu teimladau cadarnhaol.

Gallwch lawrlwytho’r fersiwn i bobl ifanc o’r ap am ddim ar waelod y dudalen.

Adnodd wedi’i greu gan bobl ifanc ar gyfer pobl ifanc. Mae’n cynnig gwybodaeth a dolenni at wasanaethau iechyd a lles emosiynol

Mae Project Me yn rhaglen ar-lein i bobl ifanc 13-25 oed i’ch helpu drwy’r adegau hynny pan fydd angen cymorth ychwanegol arnoch ar gyfer eich lles. Mae’n cynnwys cwisiau, fideos a blogiau.

Gwybodaeth ac adnoddau am ddim ar amrywiaeth o bynciau gan Young Minds.

Helpu pobl ifanc eraill

Rydyn ni’n gwybod y gall fod yn anodd gwybod sut i ymateb pan fydd rhywun yn siarad gyda chi am ei iechyd meddwl. Edrychwch ar ein hadnodd isod i gael cyngor ar sut i ymateb.

Mae Daioni Darllen yn argymell llyfrau wedi eu cymeradwyo gan arbenigwyr am iechyd meddwl, gan roi cyngor a gwybodaeth i bobl ifanc rhwng 13 a 18 oed am faterion fel gorbryder, straen ac anhwylder gorfodaeth obsesiynol (OCD), a phrofiadau anodd fel bwlio ac arholiadau.

Mae’r llyfrau i gyd wedi cael eu hargymell gan bobl ifanc a gweithwyr proffesiynol iechyd ac maent ar gael i’w benthyg am ddim o lyfrgelloedd cyhoeddus.

Gallwch ddod o hyd i’r rhestr lyfrau yma.

Gwybodaeth i bobl ifanc am sut i gefnogi ffrind sy’n cael trafferth gyda’r ffordd mae’n teimlo.

Dyma gyngor Young Minds ar yr hyn y gallwch ei ddweud a sut y gallwch gefnogi eich ffrind wrth ofalu am eich iechyd meddwl eich hun hefyd.

LHDTC+

Nid yw bod yn LHDTC+ yn broblem iechyd meddwl, wrth gwrs – ond gallech wynebu rhai heriau ychwanegol a allai effeithio ar sut rydych chi’n teimlo.

Cymerwch olwg ar yr adnoddau LHDTC+ penodol isod a’n tudalen teimlo’n wahanol am fwy o wybodaeth.

Gwasanaeth gwybodaeth ar gyfer pobl LGBTQ+ a’u teuluoedd.

Ffoniwch 08000 50 20 20 neu e-bostiwch info@stonewall.org.uk ar agor 9:30 – 4:30 Dydd Llun – Gwener

Mae Ieuenctid Stonewall hefyd yn rhoi gwybodaeth a chymorth i bobl ifanc sy’n rhan o’r gymuned LHDTC+.

Ymwybyddiaeth Ofalgar

Mae ymwybyddiaeth ofalgar yn ymwneud â dewis sylwi ar yr hyn sy’n digwydd ar hyn o bryd. Mae’n gyfle i gymryd seibiant o’ch pryderon a’ch helpu i deimlo bod gennych fwy o reolaeth o’ch emosiynau.

Dysgwch fwy am ymwybyddiaeth ofalgar yn ein hadran hunangymorth.

Ap am ddim i helpu gyda chysgu, gorbryder a straen.

Mae ap Pzizz yn eich helpu i dawelu’ch meddwl yn gyflym, syrthio i gysgu’n gyflym, aros ynghwsg, a deffro yn teimlo’n dda.

Mae’n defnyddio “breuddwydlun” – cymysgedd o gerddoriaeth, trosleisio ac effeithiau sain a ddyluniwyd gan ddefnyddio’r ymchwil glinigol ddiweddaraf – i’ch helpu i gysgu’n well yn y nos neu gymryd saib gwsg gyflym yn ystod y dydd.

Fersiwn am ddim ar gael.

Mae’r canllaw hunangymorth hwn wedi’i gynllunio i roi syniadau i ti ar sut i ymarfer meddwlgarwch, a allai helpu i leihau pryderon a rheoli emosiynau anodd eraill.

Does dim ffordd gywir nac anghywir o wneud hyn felly gweithiwch ar eich cyflymder eich hun. Gallai fod yn ddefnyddiol gwneud hyn gyda rhywun sy’n agos atoch neu rannu rhannau o hyn.

Perthnasoedd ac iechyd rhywiol

Gall perthnasoedd gael effaith fawr ar ein bywydau a sut rydyn ni’n teimlo.

Am ddim ac yn gyfrinachol adnoddau iechyd a lles rhywiol ar gyfer pobl o dan 25 oed.

Maent yn cynnig i bobl ifanc yng Nghaerdydd a’r Fro Wasanaeth arbenigol a chyfrinachol wedi’i deilwra ar gyfer iechyd a pherthnasoedd rhywiol.

Gall y rhain fod yn 1:1 mewn man o’ch dewis, neu waith grŵp mewn ysgolion a sefydliadau eraill sy’n gweithio gyda phobl ifanc.

Gall y profiadau rydych chi’n eu cael oherwydd eich rhywioldeb effeithio ar eich iechyd meddwl. Dyma rhywfaint o wybodaeth all eich helpu i gael y gefnogaeth rydych yn ei haeddu.

Hunanddelwedd / hunan-barch

Hunan-barch yw sut rydyn ni’n meddwl amdanom ein hunain. Dysgwch fwy yma.

Mae Prosiect Hunan-barch Dove yn cynnwys rhai adnoddau ac erthyglau am hunan-barch a delwedd y corff ar gyfer plant a phobl ifanc

Gwybodaeth i bobl ifanc am hyder a hunan-barch, beth all effeithio arnyn nhw, ac awgrymiadau i’ch helpu chi i deimlo’n well amdanoch chi’ch hun

Mae’r llyfr gwaith hunangymorth hwn yn esbonio beth yw hyder a hunan-barch a beth sy’n effeithio arnynt.

Mae hefyd yn rhoi cyngor a gweithgareddau ymarferol a all eich helpu i deimlo’n well am eich hun!

Gallwch naill ai gwblhau hyn ar eich pen eich hun neu ochr yn ochr ag oedolyn rydych yn ymddiried ynddo fel y gall gynnig cymorth i chi.

Delwedd y corff yw sut rydyn ni’n meddwl ac yn teimlo amdanom ein hunain yn gorfforol. Weithiau rydyn ni’n poeni am sut rydyn ni’n edrych neu’r hyn mae ein ffrindiau’n ei feddwl am ein corff.

Os ydych chi’n cael trafferth gyda delwedd y corff, dyma awgrymiadau gan Young Minds all eich helpu chi.

Cwrs 7 wythnos ar-lein am ddim ar gyfer pobl ifanc 14 – 19 oed sy’n cael trafferth gyda hunan-niweidio neu sy’n poeni y gallent wneud hynny.

Mae gan bob cwrs hyd at 8 o bobl ifanc, pob un yn defnyddio’r sesiynau o’u ffonau, cyfrifiaduron llechen neu liniaduron eu hunain ledled y DU. Mae’r cyrsiau’n digwydd ar wahanol nosweithiau yn ystod yr wythnos gyda chwnselwyr cyfeillgar, hyfforddedig a gweithwyr ieuenctid gwirfoddol.

Does dim angen i oedolyn eich cyfeirio neu eich cofrestru, ac ni fydd neb yn eich gweld nac yn eich clywed yn ystod y sesiynau – byddwch chi ond yn ymuno drwy’r blwch sgwrsio.

Cynigir gan Self Harm UK

Ap i helpu pobl ifanc i reoli emosiynau a lleihau ysfa i hunan-niweidio, gan gynnwys dyddiadur hwyliau, blwch offer o dechnegau i leihau trallod a llwybrau awtomatig i wasanaethau argyfwng.

Defnyddiwch yr ap hwn i wrthsefyll neu reoli’r awydd i hunan-niweidio drwy wahanol weithgareddau. Mae’r ap yn un preifat ac wedi’i ddiogelu gan gyfrinair.

Rhestr o bethau i roi cynnig arnynt i dynnu’ch sylw eich hun neu gymryd lle’r angen i frifo eich hun.

Mae’r llyfr gwaith hunangymorth hwn yn cynnig gwybodaeth a chyngor ar hunan-niweidio.

Yn bwysicaf oll, mae’n cynnig technegau a dulliau i bobl ifanc i’w cadw’n ddiogel ac i helpu i leihau ymddygiad hunan-niweidiol yn ogystal â gwybodaeth am sut i gael cymorth a pha gymorth sydd ar gael.

Gallwch naill ai ei gwblhau ar eich pen eich hun neu gydag oedolyn rydych yn ymddiried ynddo er mwyn iddo allu cynnig cymorth i chi.

Mae The Mix yn rhoi 5 awgrym os bydd rhywun yn dweud wrthych ei fod yn hunan-niweidio.

Gwybodaeth am beth yw hunan-niweidio a beth i’w wneud os yw’n effeithio arnoch chi.

Meddyliadau hunanladdol

Mae angen help arna i nawr!

Ap sy’n adnodd poced atal hunanladdiad am ddim i helpu pobl ifanc i gadw’n ddiogel. Gallwch ei ddefnyddio os ydych chi’n meddwl am hunanladdiad neu os ydych chi’n poeni am rywun arall a allai fod yn ystyried lladd ei hun.

Yn ogystal â’r adnoddau, mae’r ap yn cynnwys cynllun diogelwch, rhesymau i fyw y mae modd eu haddasu, a blwch bywyd lle gallwch storio lluniau sy’n bwysig i chi.

Siarad ag eraill

Pan fyddwch chi’n mynd trwy gyfnod anodd, mae cysylltu â phobl eraill yn bwysig iawn, hyd yn oed os nad ydych chi eisiau siarad â nhw am yr hyn sy’n digwydd gyda chi.

Ceisiwch barhau i siarad, tecstio, gwrando a holi eich ffrindiau a’ch teulu.

Mae Byrddau Negeseuon Childline yn lle i siarad â phobl ifanc eraill, rhannu eich profiadau neu dim ond cael hwyl.

Mae’r byrddau hyn yn ddienw ac mae’r holl negeseuon yn cael eu gwirio gan gymedrolwyr cyn cael eu postio.

Gellir dod o hyd i reolau a chwestiynau cyffredin yma.

Mae llwyfan Kooth yn agored i bobl ifanc rhwng 10 a 18 oed. Mae’n cynnig fforymau wedi’u cymedroli’n fyw, y cyfle i sgwrsio ag aelodau o dîm Kooth am yr hyn sydd ar eich meddwl, llawer o erthyglau defnyddiol a dyddlyfr i olrhain eich teimladau.

Dim ond ar gael yng Nghaerdydd ar hyn o bryd.

Byrddau trafod i bobl ifanc 13 – 25 oed ledled y DU i siarad yn ddienw am yr hyn sydd ar eu meddyliau a helpu pobl ifainc eraill sy’n wynebu sefyllfaoedd tebyg.

Mae The Mix hefyd yn cynnig sgyrsiau grŵp ar-lein unwaith yr wythnos – gwnewch yn siŵr eich bod yn darllen y canllawiau cyn i chi gofrestru.

Mae Childline yn cynnig byrddau negeseuon wedi’u cymedroli lle gallwch chi rannu eich profiadau, cael hwyl a chael cefnogaeth gan ofalwyr ifanc eraill.

Mae’r byrddau hyn yn ddienw ac mae’r holl negeseuon yn cael eu gwirio gan gymedrolwyr cyn cael eu postio.

Gellir dod o hyd i reolau a chwestiynau cyffredin yma.

Olrhain eich hwyliau

Gall fod yn ddefnyddiol iawn olrhain sut rydych chi’n teimlo dros gyfnod o amser, yn ogystal â rhai o’r pethau a allai fod yn achosi i chi deimlo emosiynau gwahanol.

Rhowch gynnig ar yr apiau hyn isod i weld a oes unrhyw un ohonynt yn addas i chi. Efallai y byddai’n well gennych ysgrifennu hyn i lawr mewn dyddiadur.

Mae’r ap am ddim hwn yn yn eich dysgu sut i edrych ar broblemau mewn ffordd wahanol, troi meddyliau negyddol yn rhai cadarnhaol a gwella eich lles meddyliol gan ddefnyddio 3 cham syml:

  • Mae ‘Catch It’ yn cofnodi ac yn graddio’ch hwyliau
  • Mae ‘Check It’ yn gofyn i chi fyfyrio am eiliad ar yr hyn rydych chi’n ei feddwl
  • Mae ‘Change It’ yn gofyn i chi feddwl am ffordd well o ddelio â phroblem

Mae gan y Samariaid ap hunangymorth i’ch helpu i olrhain eich hwyliau. Mae hefyd yn rhoi awgrymiadau i ofalu am eich lles emosiynol.

Bydd angen i chi greu cyfrif i ddefnyddio’r adnodd hwn.

Sylwi, cofnodi a rheoli eich pryderon gan ddefnyddio yr ap am ddim hwn.