Y Broses o Archebu Presgripsiwn

Mae’r Gwasanaeth Niwroddatblygiadol yn defnyddio platfform ar-lein i chi wneud cais am bresgripsiynau rheolaidd ar gyfer eich plentyn.

Sut i wneud cais am bresgripsiynau ar-lein

Caniatewch 5 diwrnod gwaith i’ch cais am bresgripsiwn gael ei brosesu. Byddwch yn derbyn neges destun pan fydd eich presgripsiwn yn barod i’w gasglu, dewch â cherdyn adnabod (ID) wrth gasglu’r presgripsiwn.

Os ydych yn glaf yng Nghaerdydd, bydd eich presgripsiwn yn barod i’w gasglu o Ganolfan Plant Dewi Sant. Os ydych yn glaf yn y Fro, bydd eich presgripsiwn yn barod i’w gasglu o Ganolfan Plant Llandochau.

Nod y broses hon yw gwella effeithlonrwydd, gan sicrhau bod y profiad o ddosbarthu’r presgripsiwn mor gyfleus a didrafferth â phosibl.

Gofynion Presenoldeb mewn Clinig Arsylwi

Mae’r clinigau hyn yn chwarae rhan hanfodol wrth fonitro cynnydd y plentyn/person ifanc ac addasu eu cynllun triniaeth yn unol â hynny. Gall peidio â mynychu arwain at y canlyniadau canlynol:

Peidio â chyflwyno’r presgripsiwn: Gall peidio â mynychu’r clinigau arsylwi gofynnol arwain at oedi wrth gyflwyno presgripsiwn.

Rhyddhau’r claf: Gall peidio â mynychu am gyfnod hir heb reswm arwain at ryddhau’r plentyn/person ifanc o’n gwasanaethau.

Clinigau Arsylwi sydd ar y gweill

Byddwn yn rhoi rhybudd ymlaen llaw ar gyfer pob clinig arsylwi, gan roi amser i chi drefnu eich apwyntiadau.

Os ydych yn cael unrhyw drafferthion gyda’r system gwneud cais am bresgripsiwn electronig neu os oes angen eglurhad arnoch o amserlenni’r clinigau arsylwi, mae croeso i chi gysylltu â ni ar 02921 836789.