Beth allwch chi ei ddisgwyl
Mae ein holl wybodaeth am Gysylltiadau Cymunedol ar un dudalen.
Cliciwch ar y dolenni isod i neidio i’r adrannau hynny.
Beth yw Cysylltydd Cymunedol?
Mae Cysylltwyr Cymunedol yn cefnogi rhieni a gofalwyr plant 0-11 oed trwy rannu gwybodaeth am eu taith ar y rhestr aros ac yn eu cyfeirio at wasanaethau lleol y gellir cael mynediad atynt heb ddiagnosis ffurfiol.
Beth Rydym yn Ei Wneud
Unwaith y bydd eich plentyn wedi’i dderbyn ar restr aros y Gwasanaeth Niwroddatblygiadol, bydd gennych fynediad at y digwyddiadau rhad ac am ddim canlynol.
Nid yw’r digwyddiadau hyn yn asesiadau. Maent yn cael eu cynnal i ddarparu gwybodaeth a chodi ymwybyddiaeth am anghenion Niwroddatblygiadol a’r cymorth sydd ar gael.
- Wyneb yn wyneb
- Cyflwyniad 15 munud ar restr aros y Gwasanaeth Niwroddatblygiadol, y broses asesu a gwasanaethau cymorth sydd ar gael
- Stondinau gan yr Awdurdod Lleol, y maes addysg a gwasanaethau elusennol
- Hysbysebir yma Digwyddiadau
- Wyneb yn wyneb mewn ysgolion cynradd
- Nid oes angen trefnu lle
- Cyflwyniad 10 munud ar y gwasanaethau cymorth sydd ar gael
- Sgwrsio â Chysylltydd Cymunedol a gofyn cwestiynau
- Hysbysebu drwy eich ysgol gynradd
- Wyneb yn wyneb neu ar-lein
- Cyflwyniadau gan weithwyr proffesiynol
- Cyngor a strategaethau ymarferol
- Ar bynciau fel rheoleiddio emosiynol, Therapi Galwedigaethol a SNAP Cymru
- Hunangofrestru ar Eventbrite
- Cliciwch ‘dilyn’ ar Eventbrite ac ni fyddwch byth yn colli digwyddiad newydd
- Hysbysebir yma Digwyddiadau neu drwy eich ysgol gynradd
Cwrdd â’r Tîm
Dyma Sarah, Libby a Jo, ein Cysylltwyr Cymunedol hyfryd!
Cysylltu â Chysylltydd Cymunedol
Os oes gennych gwestiwn ar ein cyfer ynghylch rhestr aros y Gwasanaeth Niwroddatblygiadol, y broses asesu neu wasanaethau cymorth sydd ar gael heb ddiagnosis:
Anfonwch e-bost atom: nd.communityconnections.cav@wales.nhs.uk a byddwn yn gwneud ein gorau i ateb eich cwestiwn neu eich cyfeirio at wasanaethau eraill o fewn 3 diwrnod gwaith.
Noder nad ydym yn derbyn ymholiadau am atgyfeiriadau, apwyntiadau asesu neu feddyginiaeth.
Ar gyfer y rhain, anfonwch e-bost at: Paediatric.NDTeam.Cav@wales.nhs.uk neu defnyddiwch y ffurflen gyswllt ar gyfer y Gwasanaeth Niwroddatblygiadol.
Adnoddau
Cyflwyniad
Rydym wedi creu cyflwyniad am y gwasanaethau a’r cymorth sydd ar gael yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg. Mae’n cynnwys codau QR a dolenni i’r gwasanaethau a’r cymorth y mae’r cysylltwyr cymunedol yn cyfeirio atynt yn ystod ein digwyddiadau.
Gweithgareddau Cynhwysol
Rydym wedi llunio rhestr o weithgareddau cynhwysol yn ardal Caerdydd a’r Fro.
Mae’r sesiynau hyn yn arbennig ar gyfer plant sydd ag Anghenion Dysgu Ychwanegol sy’n dod i’r amlwg neu sydd â diagnosis.
Mae’r rhestr hon yn cael ei diweddaru’n rheolaidd ond cysylltwch â’r gwasanaethau dan sylw cyn mynychu i gael y wybodaeth ddiweddaraf.
Gwasanaethau a Chymorth
Rydym wedi llunio rhestr o wasanaethau a chymorth sydd ar gael yn ardal Caerdydd a’r Fro.
Mae’r rhestr hon yn cael ei diweddaru’n rheolaidd ond cysylltwch â’r gwasanaethau dan sylw i gael y wybodaeth ddiweddaraf.
Gwefannau ac Apiau
Gweler prif wefan y Gwasanaeth Niwroddatblygiadol. Adnoddau i Rieni a Gofalwyr.
Fideo
Rydym wedi datblygu fideo sy’n rhoi gwybodaeth am rai o’r gwasanaethau sydd ar gael yng Nghaerdydd, Bro Morgannwg ac yn y ddwy ardal.
(Cliciwch yma i weld y fideo)
Digwyddiadau
Gweithdy Lles 14 Ionawr 2025
Sesiwn Gysylltu Caerdydd 27 Ionawr 2025
Gweithdy Lles 11 Chwefror 2025
Gweithdy Lles 11 Mawrth 2025