Beth allwch chi ei ddisgwyl
Mae lefel yr angen am ein gwasanaeth yn cynyddu ac mae hyn yn arwain at amseroedd aros hirach i gael eich gweld. Ein hamser aros presennol yw tua 3 1/2 blynedd o’r dyddiad y byddwn yn derbyn eich atgyfeiriad.
Yn anffodus, ar hyn o bryd nid ydym yn gallu ateb unrhyw ymholiadau sy’n ymwneud â’ch amser aros a phryd y cynigir apwyntiad, ond os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch anghenion iechyd eich plentyn, gallwch gysylltu â’ch meddyg teulu i gael cyngor a chymorth pellach. Sylwch na fydd eich meddyg teulu yn gallu rhoi cyngor am ein hamseroedd aros.
Rydym yn ymddiheuro’n ddiffuant am yr amser aros hir a’r rhwystredigaeth y gallai hyn ei achosi a’r effaith y gallai ei chael. Tra byddwch yn aros am apwyntiad am asesiad, mae llawer o gefnogaeth ac adnoddau ar gael a allai ddiwallu anghenion a heriau eich plentyn a’ch teulu. Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth drwy’r dolenni canlynol:
Ein harfer arferol yw eich hysbysu, yn ysgrifenedig, bod eich plentyn wedi cael ei dderbyn ar ein rhestr aros. Tra byddwch yn aros am asesiad, byddwn hefyd yn cysylltu â chi’n rheolaidd i dawelu eich meddwl bod eich plentyn yn dal ar ein rhestr aros a chyn gynted ag y bydd apwyntiad ar gael byddwn yn rhoi gwybod i chi.
Byddem yn gwerthfawrogi pob ymdrech i ddod i’ch apwyntiadau. Os nad yw apwyntiad yn addas, gofynnwn i chi gysylltu â’r tîm cyn gynted â phosibl ar Ffôn: 02921 836789 fel y gellir cynnig yr apwyntiad i rywun arall.
Os yw eich amgylchiadau wedi newid ac nad oes angen ein gwasanaeth arnoch mwyach, rhowch wybod i ni drwy gwblhau’r ffurflen ar-lein. Os oes gennych unrhyw gwestiynau eraill, gallwch hefyd gyflwyno’r rhain gan ddefnyddio ein ffurflen gyswllt ar-lein.
Gwerthfawrogir eich amynedd a’ch dealltwriaeth yn ystod y cyfnod heriol hwn yn fawr.