Beth allwch chi ei ddisgwyl
Mae ymwybyddiaeth ofalgar yn golygu dewis talu sylw i beth sy’n digwydd ar hyn o bryd.
Mae’n gyfle i gymryd seibiant o’ch pryderon a’ch helpu i deimlo bod gennych fwy o reolaeth o’ch emosiynau.
Mae ymwybyddiaeth ofalgar yn rhywbeth y gallwn ni i gyd wneud. Mae’n rhad ac am ddim a gallwch ei wneud yn unrhyw le!
Y cyfan y mae’n rhaid i chi wneud yw cymryd ychydig funudau i aros a sylwi ar sut rydych yn teimlo. Mae hyn yn cynnwys unrhyw beth a deimlir gan eich corff, unrhyw feddyliau sydd gennych a sut mae’r rhain yn gwneud i chi deimlo.
Mae sylwi a derbyn yr hyn sy’n digwydd ar hyn o bryd yn fan cychwyn gwych.
Dyma rai technegau y gallwch roi cynnig arnynt eich hun:
- Canolbwyntiwch ar anadlu gan gyfrif nifer yr anadliadau ‘i mewn’ ac ‘allan’ – dechreuwch gyda “Rwy’n anadlu mewn 1, rwy’n anadlu allan 1, rwy’n anadlu mewn 2…” a gwneud hyn nes i chi gyrraedd rhif 10
- Caewch eich llygaid a chanolbwyntiwch ar eich anadlu. Meddyliwch am un peth rydych yn ddiolchgar amdano, a chadwch y ddelwedd hon yn eich meddwl. Ydych chi’n sylwi ar unrhyw deimladau sy’n codi pan fyddwch chi’n meddwl am hyn?
- Defnyddiwch eich synhwyrau fel sail i’ch hun – canolbwyntiwch ar un synnwyr ar y tro. Meddyliwch am 5 peth y gallwch eu gweld. Meddyliwch am 4 peth y gallwch eu clywed. Meddyliwch am 3 pheth y gallwch eu harogli. Meddyliwch am 2 beth y gallwch chi gyffwrdd. Meddyliwch am 1 peth y gallwch chi flasu.
- Rhowch gynnig ar rai o’n hadnoddau ymwybyddiaeth ofalgar eraill a argymhellir
Os ydych wedi rhoi cynnig ar unrhyw un o’r rhain, llongyfarchiadau – roedd hynny’n foment ofalgar! Sut rydych chi’n teimlo?
Gall gwneud hyn mor aml ag y gallwch yn ystod y dydd eich helpu i ddod i adnabod eich hun a’ch meddwl yn well. Gall hyd yn oed 10 – 20 eiliad wir eich helpu!