Beth allwch chi ei ddisgwyl
Methu cysgu?
Mae methu cysgu yn flinedig! Gall eich gwneud yn
- flin iawn ac weithiau ychydig yn ddigalon
- ddim yn gallu canolbwyntio
- bwyta sothach
- bod yn bigog gyda’ch ffrindiau a’ch teulu
- peidio â mwynhau gweithgareddau yn y dydd gymaint
Gadewch imi gyflwyno fy hun
Helo, Cath dwi ac rwy’n Nyrs Ysgol.
Rwy’n gweithio i’r GIG ac yn ymweld ag ysgolion bob wythnos i siarad â phobl ifanc a’u cefnogi gyda llawer o faterion gwahanol (mae’n gyfrinachol, mae hynny’n golygu na fyddaf yn dweud wrth neb am yr hyn yr ydym wedi siarad amdano, oni bai fy mod yn poeni am eich diogelwch chi neu ddiogelwch rhywun arall).
Cwrdd â Clara
Fe wnes i gwrdd â Clara (nid ei henw iawn) yn yr Hyb Iechyd Pobl Ifanc yr wyf yn ei rhedeg bob wythnos yn ei Hysgol Uwchradd.
Roedd Clara yn edrych yn flinedig iawn. Dywedodd wrthyf nad oedd yn cysgu gan ei bod yn poeni am ei harholiadau.
Roedd bod yn bryderus a pheidio â chysgu yn ei gwneud i’w lefelau straen waethygu’n ddifrifol.
Cawsom sgwrs
Gwrandewais arni ac yna gwnaethom siarad am bethau a allai ei helpu.
Dywedodd Clara wrthyf ei bod yn gwneud ei gwaith cartref ac yn adolygu ar ei gwely, yna bydd yn mynd ar ei ffôn i sgwrsio â’i ffrindiau, fel arfer yn syrthio i gysgu tra’i bod yn dal wedi’i gwisgo, ffôn yn ei llaw.
Gwnaethom siarad am bwysigrwydd trefn amser gwely.
- Eglurais i Clara am bwysigrwydd diffodd ac ymlacio.
- Cytunwyd y byddai’n ceisio gwneud i’w gwaith ysgol yn eistedd wrth ei desg fel mai dim ond lle i gysgu yn y nos oedd ei gwely.
- Ar ôl iddi orffen ei gwaith a chael sgwrs gyflym gyda’i ffrindiau ar-lein roedd hi’n mynd i ddiffodd ei ffôn a’i roi mewn drôr yn ei desg. Mae cael amser i ffwrdd o sgriniau o leiaf 30 munud cyn i chi fynd i’r gwely yn help mawr.
Roedd hi wedyn yn mynd i gael bath hamddenol neu gawod braf,
- gwisgo ei phyjamas
- efallai cael byrbryd ysgafn neu wydraid o laeth
- ac yna
Dywedodd ei bod yn aml yn deffro yn y nos yn poeni am bethau ac yna’n methu mynd yn ôl i gysgu.
Siaradon ni am sut y gallai ysgrifennu pethau i lawr neu gadw dyddiadur cyn iddi fynd i’r gwely ei helpu i gael gwared ar y meddyliau fel y gall ymlacio.
Siaradon ni am feddwlgarwch, gwneud pethau sy’n tynnu eich meddwl oddi ar eich meddyliau.
Mae llawer o apiau ar-lein fel Headspace a Calm y dywedodd Clara y byddai’n rhoi cynnig arnynt.
Dywedodd hefyd ei bod yn hoffi rhywfaint o gerddoriaeth glasurol, felly dywedodd y byddai’n ceisio gwrando arni i’w helpu i ymlacio.
Beth ddylwn i ei wneud?
Dywedais wrth Clara rywbeth rwy’n ei wneud pan na allaf gysgu sy’n fy helpu i sy’n syml iawn.
Rwy’n cael fy hun yn gyfforddus yn y gwely ac yn gwneud yn siŵr fy mod wedi ymlacio. Yna, rwy’n cyfrif i lawr yn araf o 10 i 0, gan anadlu i mewn ac allan yn araf, gan ganolbwyntio ar fy anadl – fel arfer rwy’n cysgu erbyn 5!
Dywedodd y byddai’n rhoi cynnig arni.
Sut aeth hi?
Gwelais Clara eto yn yr ysgol ychydig wythnosau’n ddiweddarach. Dywedodd fod ei chysgu wedi gwella.
Roedd hi’n gwneud y drefn amser gwely ac yn mynd i gysgu’n iawn ond yna’n deffro yn y nos ac yn ei chael hi’n anodd mynd yn ôl i gysgu gan ei bod yn dal i boeni am ei harholiadau.
Beth arall allai hi ei wneud?
Cynghorais Clara i siarad â’i hathrawon am ei phryderon, efallai gweld a allent ei helpu i lunio amserlen adolygu i’w helpu i reoli ei gwaith.
Dywedodd Clara ei bod yn arfer mwynhau rhedeg ond heb ei wneud llawer yn ddiweddar gan ei bod mor brysur gyda gwaith ysgol.
Siaradon ni am sut y byddai mynd i redeg yn ei helpu’n fawr gan
- y byddai’n ei helpu i anghofio am ei harholiadau a chael gwared ar straen
- byddai’n teimlo’n egnïol ac yn gadarnhaol ar ôl iddi redeg
- mae gwneud rhywbeth y mae’n ei fwynhau yn bwysig iawn i’w hiechyd meddwl
- byddai’n ei gwneud hi’n fwy blinedig a gobeithio yn ei helpu i gysgu.
Dywedodd Clara y byddai’n ceisio mynd yn ôl i redeg gan y gallai weld y byddai’n ei helpu mewn gwirionedd.
Dywedais wrth Clara y gallwn ei gweld eto yn y dyfodol yn yr ysgol pe bai’n dymuno gwneud hynny.
Dywedais wrthi hefyd am Sgwrs Iechyd, y gwasanaeth testun dienw, cyfrinachol sy’n cael ei redeg gan Nyrsys Ysgol Caerdydd a’r Fro.
Gall pobl ifanc rhwng 11 a 19 oed anfon neges destun at 07520 615718 o ddydd Llun i ddydd Gwener 0830 i 1630 os oes angen cymorth a chyngor arnynt ar unrhyw faterion sy’n effeithio ar eu hiechyd corfforol neu feddyliol.
Mae cwsg yn bwysig i’ch iechyd corfforol a meddyliol.
Os ydych chi’n cael problemau cysgu, edrychwch ar ein hadnoddau neu ofyn am gael siarad â’ch Nyrs Ysgol yn yr ysgol.