Sut i wneud cais am bresgripsiynau
Gallai fod angen cymorth emosiynol ar blant a phobl ifanc am nifer o resymau, ni waeth beth yw eu hoedran.
Os ydych chi’n weithiwr proffesiynol, mae gennym adnoddau i’ch helpu chi i gefnogi plant a phobl ifanc gyda’u niwroddatblygiad.
Gall gweithwyr proffesiynol hefyd gysylltu â’r Pwynt Mynediad Unigol i gael cyngor ar Niwroddatblygiad – dysgwch fwy yma.
Mae gennym hefyd restr A-Y o adnoddau ar gyfer rhieni a phobl ifanc.
Mae’r dudalen hon wrthi’n cael ei datblygu. Os oes gennych unrhyw syniadau neu adnoddau yr hoffech eu rhannu, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.
Rhieni, gofalwyr a niwroddatblygiad
Er ein bod yn cynnig gwasanaethau i blant a phobl ifanc dan 18 oed, rydym yn cydnabod y gall yr oedolion yn eu bywydau hefyd fod yn wynebu eu heriau eu hunain.
Os ydych yn credu y gallai hyn fod yn berthnasol i oedolyn ym mywyd y plentyn/person ifanc, rydym yn argymell y canlynol:
- ei annog i edrych ar ein hadnoddau ar gyfer rhieni a gofalwyr
- ei annog i edrych ar wefan Dewis Cymru i ddod o hyd i adnoddau lleol a allai helpu
- ei annog i gysylltu â’r meddyg teulu i siarad am sut mae’n teimlo a sut mae’n effeithio ar ei fywyd
Adnoddau ac apiau ar-lein
Rydym wedi darparu adnoddau isod fel man cychwyn. Gallwch gysylltu â ni os oes gennych adnoddau ychwanegol i’w rhannu neu os oes pynciau yr hoffech glywed mwy amdanynt.
Nid yw’r adnoddau, yr apiau a’r llinellau cymorth hyn yn rhan o’r gwasanaethau a ddarperir gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro (oni nodir yn wahanol):
- Nid ydym yn gyfrifol am y cynnwys allanol a grybwyllir ar y wefan hon.
- Dylech bob amser ddarllen Telerau ac Amodau a Pholisi Preifatrwydd ap i weld sut y gallai eich data gael ei ddefnyddio.
Addysg ac ysgolion
Mae’r rhan fwyaf o blant a phobl ifanc yn treulio llawer o amser yn eu hysgol – felly mae’n bwysig bod yr amgylcheddau hyn yn ddiogel, yn groesawgar ac yn cefnogi eu lles emosiynol a’u hiechyd meddwl.
Rydym yn argymell bod staff ysgolion yn darllen y ddogfen ganlynol i ddeall eu cyfrifoldeb wrth adolygu eu tirwedd lles eu hunain ac i helpu i ddatblygu cynlluniau i fynd i’r afael â’u gwendidau ac adeiladu ar eu cryfderau.
Mae Cymuned Addysg Barnardo’s wedi cael ei datblygu i gysylltu gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio mewn lleoliadau addysg ar draws y Blynyddoedd Cynnar, Ysgolion, Addysg Bellach a Phrifysgolion.
Awgrymiadau a chyngor ar ddefnyddio dulliau PACE wrth gyfathrebu â phlant a phobl ifanc wrth iddynt ddychwelyd i’r ysgol.
Yn addas ar gyfer staff ysgolion cynradd ac uwchradd.
Elusen genedlaethol yw Family Links sy’n ymroi i hybu iechyd emosiynol yn y cartref, yn yr ysgol ac yn y gwaith.
Mae’r elusen yn cynnig hyfforddiant ac adnoddau i weithwyr proffesiynol sy’n gweithio gyda theuluoedd, staff ysgolion a phrifysgolion, a gweithwyr yn y gweithle.
Cewch ragor o wybodaeth ar eu gwefan.
Cyngor da i staff ysgol ar y pynciau canlynol:
- Gorbryder
- Hyder a hunan-barch
- Anawsterau rheolaeth emosiynol
- Hwyliau isel
- OCD
- Mudandod dethol
- Hunan-niweidio
- Hylendid cwsg
Rhestr gyfeirio o strategaethau ymarferol i staff ysgolion cynradd ac uwchradd, i’w defnyddio wrth ystyried cymorth ehangach i ddysgwr yn ystod y cyfnod pontio.
Mae’n bwysig iawn bod dysgwyr yn pontio mewn ffordd gadarnhaol – dysgwch fwy yma.
Rheoli emosiynau
Adnodd ar gyfer staff addysg – wedi’i gynllunio i gefnogi plant a phobl ifanc i reoleiddio.
Gemau a gweithgareddau i helpu plant, pobl ifanc ac oedolion i gysylltu a meithrin perthnasoedd.
Lles Emosiynol
Mae llawer o adnoddau cyffredinol ar gael i ddysgu mwy am les emosiynol.
Mae Bridge the Gap yn cynnig adnoddau am ddim i rieni a gofalwyr i gefnogi lles plentyn.
Maent hefyd yn cynnig cwrs am ddim sy’n rhoi gwybodaeth am sut i gadw plentyn yn ddiogel mewn argyfwng. Gellir gwneud hyn yn eich amser eich hun trwy wylio cyfres o fideos.
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi llunio fframwaith cysyniadol sy’n rhoi darlun o’r berthynas rhwng lles unigolyn a chymuned ac elfennau allweddol sy’n dylanwadu ar les ar bob lefel.
Gwybodaeth, cyngor ac adnoddau ynghylch iechyd meddwl plant a phobl ifanc.
Maent hefyd yn darparu llinell destun ar gyfer pobl ifanc sy’n profi argyfwng iechyd meddwl a llinell gymorth i rieni a gofalwyr.
Teulu
Gall problemau neu heriau sy’n wynebu teulu effeithio ar blant a phobl ifanc. Dyma rai adnoddau a allai helpu.
Gall rhieni a gofalwyr ddarllen mwy am y cymorth sydd ar gael iddynt yma.
Mae gwasanaethau Cymorth Cynnar Caerdydd a Bro Morgannwg yn rhoi gwybodaeth a chymorth i blant, pobl ifanc, teuluoedd a gweithwyr proffesiynol am ystod o bynciau a allai effeithio arnyn nhw a’u teulu.
Mae enghreifftiau’n cynnwys hunan-barch isel, perthynas deuluol a phrofedigaethau
- Os ydych chi’n byw yng Nghaerdydd, eich gwasanaeth cymorth cynnar yw Cyngor a Chymorth i Deuluoedd Caerdydd – call them during working hours on 03000 133 133.
- Os ydych chi’n byw ym Mro Morgannwg, eich gwasanaeth cymorth cynnar yw’r Llinell Gynghori Teuluoedd yn Gyntaf – ffoniwch nhw yn ystod oriau gwaith ar 0800 0327 322.
Ble bynnag mae teulu’n byw, bydd y gwasanaeth cymorth cynnar yn gwrando arnyn nhw ac yn asesu eu hanghenion. Byddan nhw naill ai’n cefnogi’r teulu’n uniongyrchol neu’n eu cyfeirio at wasanaeth a all eu helpu gydag anghenion penodol.
Dysgu mwy am les emosiynol ac iechyd meddwl
Rydym wedi dod o hyd i gyrsiau ar-lein a allai fod yn ddefnyddiol i chi os ydych yn gweithio gyda phlant, pobl ifanc a theuluoedd
Cwrs am ddim i rieni, gofalwyr a gweithwyr proffesiynol. Wedi’i ddatblygu i roi gwybodaeth i rieni a gofalwyr i gadw eu plentyn yn ddiogel mewn argyfwng.
Gellir gwneud y cwrs hwn yn eich amser eich hun trwy gyfres o fideos.
Cyngor a gwybodaeth i’ch helpu i ddeall sut y gall problemau ddigwydd, sut y gall rhieni/gofalwyr gefnogi eu teulu orau a sut i ofalu amdanynt eu hunain, wedi’u lunio gan arbenigwyr a rhieni yn gweithio gyda’i gilydd.
Diogelwch a Diogelu
Trwy Domestic Abuse, Recovering Together (DART), gall plant a mamau siarad â’i gilydd am gam-drin domestig, dysgu cyfathrebu ac ailadeiladu eu perthynas.
Dros ddeg wythnos, mae mamau a phlant 7-14 oed yn cyfarfod am sesiwn grŵp wythnosol am ddwy awr. Mae plant a mamau yn gweithio gyda’i gilydd am awr ar ddechrau’r grŵp, ac yna’n cymryd rhan mewn gweithgareddau mewn grwpiau ar wahân. Ar ddiwedd pob sesiwn, maen nhw’n ymuno â’i gilydd unwaith eto.
Gellir gwneud atgyfeiriadau drwy e-bostio help@nspcc.org.uk
Mae InCtrl yn rhaglen grŵp i gynyddu gwydnwch digidol plant, gwella eu lles emosiynol a sicrhau bod ganddynt rwydweithiau cymorth cymdeithasol a theuluol effeithiol i helpu i’w cadw’n ddiogel.
Mae’r grwpiau’n cynnwys 3 i 8 o gyfranogwyr ac yn para hyd at 9 wythnos. Rydym yn datblygu cytundeb grŵp clir i sicrhau bod plant a phobl ifanc yn gyfforddus yn rhannu eu meddyliau a’u teimladau am bynciau megis caniatâd, diogelwch ar-lein, perthynas iach a hunan-barch.
Gellir gwneud atgyfeiriadau drwy e-bostio help@nspcc.org.uk
Nod Letting the Future In (LTFI) yw helpu plant a phobl ifanc sydd wedi profi cam-drin rhywiol i ailadeiladu eu bywydau.
Rydyn ni’n cefnogi plant a phobl ifanc rhwng 4 ac 17 oed fel eu bod yn gallu gwella o’r effaith mae camdriniaeth wedi’i chael ar eu bywydau. Gellir hefyd atgyfeirio plant neu bobl ifanc sydd ag anableddau dysgu hyd at 19 oed.
Mae’r rhaglen yn dechrau gyda thair neu bedair sesiwn wythnosol i ymarferwyr asesu anghenion y plentyn a dewis ymyriadau therapiwtig priodol.
Gwahoddir plant a phobl ifanc i fannau therapiwtig diogel lle gallant gyfarfod ag ymarferydd hyfforddedig a chymryd rhan mewn gweithgareddau fel chwarae anniben, ysgrifennu, adrodd straeon a chelf. Nod hyn yw eu helpu i fynegi teimladau na allan nhw eu rhoi mewn geiriau.
E-bostiwch lettingthefuturein@nspcc.org.uk am fwy o wybodaeth
Hunanladdiad a hunan-niweidio
Ewch i Mae angen help arnaf nawr! os ydych yn chwilio am gyngor ar unwaith ar gefnogi plentyn neu berson ifanc.
Mae Harmless yn arbenigo mewn hunan-niweidio a hunanladdiad.
Gallwch ddod o hyd i adnoddau fel taflenni, llyfrynnau a phapurau academaidd ar eu Hyb Adnoddau.
Os ydych chi’n cael meddyliau am ladd eich hun neu’n poeni am berson ifanc a allai fod, gallwch gysylltu â HOPELINEUK am gymorth cyfrinachol a chyngor ymarferol.
Ar agor 9 am – 10pm yn ystod yr wythnos, 2pm – 10pm ar benwythnosau a gwyliau banc.
- Ffoniwch 0800 068 4141
- Tecstiwch 07860 039967
- E-bostiwch pat@papyrus-uk.org am ymateb o fewn 24 awr
Mae hefyd yn darparu adnoddau defnyddiol.
Mae’r llyfr gwaith hunangymorth hwn yn cynnig gwybodaeth a chyngor ar hunan-niweidio.
Yn bwysicaf oll, mae’n cynnig technegau a dulliau i bobl ifanc i’w cadw’n ddiogel ac i helpu i leihau ymddygiad hunan-niweidiol yn ogystal â sut i gael cymorth a pha gymorth sydd ar gael.
Gallwch naill ai ei gwblhau ar eich pen eich hun neu ar y cyd ag oedolyn rydych yn ymddiried ynddo er mwyn iddo allu cynnig cymorth i chi.
Cyngor da ac awgrymiadau i ysgolion ynghylch hunan-niweidio
Sefydliadau gwybodus am drawma
Fframwaith cymdeithas gyfan i gefnogi dull cydlynol, cyson o ddatblygu a gweithredu arferion gwybodus am drawma ar draws Cymru, gan ddarparu’r gefnogaeth orau bosibl i’r rhai sydd ei hangen fwyaf.