Sut i wneud cais am bresgripsiynau
Yr Un Pwynt Mynediad (UPM) yw’r pwynt mynediad ar gyfer atgyfeiriadau i wasanaethau Niwroddatblygiadol arbenigol.
Mae ein tîm clinigol hefyd yn cynnig ymgynghoriadau i weithwyr proffesiynol sy’n gweithio gyda phlant, pobl ifanc a theuluoedd.
Rydym yn argymell eich bod yn darllen yr adnoddau canlynol cyn cysylltu â ni:
- Amdanom Ni
- Beth i’w ystyried cyn gwneud atgyfeiriad
- Beth i’w gynnwys mewn atgyfeiriad
- Pwy all atgyfeirio
- Sut ydw i’n gwneud atgyfeiriad
Amdanom Ni
Rydym yn cynnig gwasanaethau Niwroddatblygiadol Arbenigol i blant a phobl ifanc dan 18 oed yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg.
Rydym yn rhan o Wasanaethau Iechyd Plant, Pobl Ifanc a Theuluoedd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro.
Ein dull o ymdrin â Phlant a Phobl Ifanc a atgyfeirir ar gyfer asesiad Niwroddatblygiadol yw:
- Datblygu dealltwriaeth gyffredin gyda phlant, pobl ifanc a’u teuluoedd am eu cryfderau a’u hanawsterau
- Rydym yn cydnabod bod amgylchiadau cymdeithasol yn cyfrannu at broblemau iechyd plant e.e. tlodi/tai gwael/hiliaeth
- Rydym yn cydnabod bod eu gofid i’r rhan fwyaf o blant yn ddealladwy o ystyried eu cyd-destun
Mae atgyfeiriadau ar gyfer asesiadau Niwroddatblygiadol yn cael eu hasesu a’u brysbennu gan glinigwyr yn yr Un Pwynt Mynediad (UPM).
Mae dwy brif elfen i swyddogaeth yr UPM:
- Prosesu atgyfeiriadau, brysbennu a gwneud argymhellion neu gyfeirio
- Ymgynghoriad ar gyfer gweithwyr proffesiynol, gan gynnwys cysylltu ag ysgolion a rhieni / gofalwyr am fwy o wybodaeth
Byddwch yn ymwybodol efallai na fydd angen asesiad ar rai atgyfeiriadau i’r Un Pwynt Mynediad.
Mewn achosion o’r fath, cynghorir yr atgyfeiriwr i argymell opsiynau eraill i’r person ifanc fel man cychwyn.
Beth i’w ystyried cyn gwneud atgyfeiriad
Nid oes angen atgyfeirio i’r Gwasanaeth Niwroddatblygiadol bob tro i gefnogi plentyn neu berson ifanc. Gall atgyfeiriadau i wasanaeth arall, fel y gwasanaeth cymorth cynnar lleol, neu’r cymorth sydd ar gael drwy ysgolion fod yn fwy addas i ddiwallu anghenion plentyn neu berson ifanc.
Rydym yn argymell fel cam cyntaf, i atgyfeirwyr:
- Annog teuluoedd i ddefnyddio gwasanaethau lleol drwy eu gwasanaeth cymorth cynnar lleol
- Annog pobl ifanc i ymgysylltu ag unrhyw gymorth sydd ar gael yn eu hysgol
Os nad yw’r rhain wedi’u gwneud, mae siawns y bydd yr atgyfeiriad yn cael ei ailgyfeirio gan argymell i’r teulu weithredu ar un neu fwy o’r rhain fel cam cyntaf
Os ydych yn ansicr ynghylch yr angen am asesiad ar gyfer plentyn neu berson ifanc penodol, gallwch ffonio’r Un Pwynt Mynediad i gael ymgynghoriad. Bydd hyn yn ein helpu i ddeall y sefyllfa’n llawn a gweithio gyda chi i lunio cynllun ar gyfer y plentyn neu’r person ifanc. Mewn rhai achosion, byddwn yn gallu derbyn hyn fel atgyfeiriad i’n gwasanaethau.
Sylwch, gallwch gysylltu â’r tîm UPM i drafod plentyn neu berson ifanc heb ddatgelu pwy ydynt. Fodd bynnag, yn yr achos hwn, ni fyddem ond yn gallu cynnig cyngor cyffredinol oherwydd nad ydym yn gallu edrych ar gofnod yr unigolyn.
Beth i’w gynnwys mewn atgyfeiriad ar gyfer asesiad Niwroddatblygiadol
Bydd darparu atgyfeiriad manwl yn helpu’r tîm UPM clinigol i benderfynu ar y llwybr mwyaf priodol i ddiwallu anghenion y plentyn neu’r person ifanc.
Os nad oes digon o wybodaeth ar gael, ni dderbynnir yr atgyfeiriad nes bod gan y tîm UPM ddigon o wybodaeth i wneud penderfyniad. Bydd y tîm UPM yn cysylltu â chi ac o bosibl â’r teulu i gael mwy o wybodaeth.
Mae’n hanfodol bod pob atgyfeiriwr yn cadarnhau cyfeiriad a manylion cyswllt y claf pan fyddant yn cwrdd â nhw, waeth pa mor hir rydych chi wedi eu hadnabod. Rydym yn dibynnu ar y manylion hyn i gysylltu â’r teulu ac mae cryn dipyn o amser gweinyddol yn cael ei wastraffu yn cysylltu ag atgyfeirwyr i ddod o hyd i’r wybodaeth ddiweddaraf.
- Gall peidio â chadarnhau’r manylion cyswllt cywir oedi wrth brosesu atgyfeiriadau, brysbennu a threfnu apwyntiad y person ifanc (os yw’n berthnasol).
Rydym yn argymell bod atgyfeirwyr yn cynnwys y wybodaeth ganlynol yn eu hatgyfeiriadau i’r Gwasanaeth Niwroddatblygiadol:
- Enw a dyddiad geni’r plentyn/person ifanc a atgyfeirir
- Eu cyfeiriad, rhif ffôn a chyfeiriad e-bost – rhaid i hyn fod wedi’i gadarnhau i fod yn gywir yn yr apwyntiad / cyfarfod diweddaraf
- Pwy sydd â chyfrifoldeb rhiant?
- Cyfenw’r rhiant (os yw’n wahanol i’r plentyn)
- Enw’r ysgol a’r cofnod presenoldeb
- Pwy sy’n byw yng nghartref y teulu – gyda manylion rhieni sydd wedi gwahanu os yn briodol
- Pa anawsterau penodol ydych chi’n eu hwynebu?
- Pa mor hir mae hyn wedi bod yn broblem?
- Pam mae’r teulu yn gofyn am help nawr?
- A yw’r sefyllfa’n benodol neu’n fwy cyffredinol?
- Eich dealltwriaeth o’r broblem / materion sy’n gysylltiedig
- Beth sydd wedi cael ei roi ar brawf yn barod?
- Sut mae’r pryder yn effeithio ar y person ifanc? Beth yw ei farn am yr atgyfeiriad?
- Eich asesiad o unrhyw risgiau
- Disgrifiad o’r effaith swyddogaethol
- A yw gweithwyr proffesiynol eraill yn cymryd rhan ac ym mha allu?
- A fu unrhyw gysylltiad blaenorol gyda’n hadran?
- A fu unrhyw gysylltiad blaenorol â Gofal Cymdeithasol? Os oes gennych unrhyw bryderon diogelu / amddiffyn plant, sicrhewch fod atgyfeiriad priodol wedi’i wneud i’r Gwasanaethau Cymdeithasol
- Ydych chi wedi siarad â’r plentyn / person ifanc yn uniongyrchol?
- Manylion unrhyw ffactorau amddiffynnol hysbys
- Unrhyw hanes perthnasol (h.y. teulu, digwyddiadau bywyd a/neu ffactorau datblygu iechyd)
Pwy all atgyfeirio i’r Gwasanaeth Niwroddatblygiadol
Gall y gweithwyr proffesiynol canlynol wneud atgyfeiriadau i’r Gwasanaeth Niwroddatblygiadol:
- Meddygon Teulu,
- Ysgolion, Meithrinfeydd, lleoliadau addysgol eraill
- Ymwelwyr Iechyd
- Rhieni, os yw plentyn yn cael ei addysgu gartref yn ddewisol
- Clinigwyr yn BIP Caerdydd a’r Fro
Sut ydw i’n atgyfeirio i’r Gwasanaeth Niwroddatblygiadol
O fis Medi 2023, mae’r gwasanaeth ond yn derbyn atgyfeiriadau electronig (e-atgyfeirio). Peidiwch ag anfon llythyrau na ffurflenni aton ni yn y post.
Ar gyfer e-atgyfeirio i’r gwasanaeth ND, dilynwch y ddolen hon: Atgyfeirio i’r Gwasanaeth Niwroddatblygiadol
Os ydych yn ansicr ynghylch yr angen am asesiad niwroddatblygiadol ar gyfer plentyn neu berson ifanc penodol, gallwch ffonio’r Un Pwynt Mynediad i gael ymgynghoriad. Bydd hyn yn ein helpu i ddeall y sefyllfa’n llawn a gweithio gyda chi i lunio cynllun ar gyfer y plentyn neu’r person ifanc.