Beth allwch chi ei ddisgwyl
Mae’r Bwrdd Iechyd yn gweithio ar y cyd â sefydliadau partner, fel ysgolion, yr awdurdod addysg, gwasanaethau cymdeithasol a sefydliadau’r trydydd sector. Ein nod yw darparu dull dim drws anghywir i gefnogi plant a’u teuluoedd.
Mae ein gwasanaeth yn cael ei gyrchu trwy Un Pwynt Mynediad i sicrhau proses gyfannol, amlasiantaeth sy’n canolbwyntio ar y plentyn sy’n cefnogi anghenion unigol y plentyn orau, p’un ag oes diagnosis neu beidio. Mae hyn yn defnyddio asesiad diagnostig arbenigol ar gyfer plant a phobl ifanc ag anhwylderau niwroddatblygiadol.
Efallai y bydd angen i’ch plentyn weld gweithwyr proffesiynol gwahanol i gwblhau ei asesiad. Gall hyn gynnwys Therapydd Galwedigaethol, Therapydd Iaith a Lleferydd, Seicolegydd Clinigol, Nyrs Arbenigol, Seiciatrydd Plant neu Bediatregydd. Gall y broses asesu gymryd amser i’w chwblhau, oherwydd weithiau bydd angen trefnu ymweliadau ag ysgol eich plentyn, yn ogystal â’i weld yn y Ganolfan Plant.
Mae’r anhwylderau niwroddatblygiadol rydym yn asesu ar eu cyfer ar hyn o bryd yn cynnwys:
- Anhwylder ar y Sbectrwm Awtistig
- Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd
ATGYFEIRIAD
Er mwyn asesu anhwylderau niwroddatblygiadol, mae angen dealltwriaeth arnom o’r datblygiad lleferydd ac iaith, yr agweddau cymdeithasol-gyfathrebu, y proffil echddygol synhwyraidd, y potensial dysgu a’r gwahaniaethau, y cyflwr lles emosiynol ac ati gan fod angen cyswllt â’r gwasanaethau sy’n gysylltiedig â gofal y plentyn. Mae hyn yn cynnwys casglu gwybodaeth am symptomau’r plentyn neu’r person ifanc mewn lleoliad addysgol a chartref.
Gellir atgyfeirio at y pwynt mynediad sengl niwroddatblygiadol, lle rydym yn derbyn atgyfeiriadau gan ysgolion, meithrinfeydd, gweithwyr proffesiynol clinigol o’r BIP a meddygon teulu. Mae rhieni plant a phobl ifanc sy’n cael eu haddysgu gartref yn ddewisol hefyd yn gallu gwneud atgyfeiriadau i’r gwasanaeth.
Mae’r gwasanaeth yn cynnwys Caerdydd a Bro Morgannwg i gyd ac mae wedi’i leoli yn y Ganolfan Plant, Ysbyty Dewi Sant, Caerdydd.
Mae ffurflen atgyfeirio yn cael ei llenwi gan weithiwr proffesiynol. Bydd hyn yn nodi cryfderau ac anghenion y plentyn/person ifanc sy’n cael ei atgyfeirio.
Mae’n ofynnol i becynnau atgyfeirio gael eu cwblhau ar gyfer y rhiant/gofalwr ac ar gyfer yr ysgol/lleoliad.
Ar ôl derbyn y ffurflen a’r pecynnau atgyfeirio wedi’u cwblhau, bydd yr atgyfeiriad yn cael ei sgrinio gan y gwasanaeth Un Pwynt Mynediad Niwroddatblygiadol.
Pan wneir atgyfeiriad, nid yw o reidrwydd yn cael ei dderbyn gan y tîm Niwroddatblygiadol.
Bydd y tîm yn brysbennu gwybodaeth yr atgyfeirwyr i ystyried a oes modd derbyn yr atgyfeiriad. Ystyrir pob atgyfeiriad yn unigol gan ddefnyddio’r meini prawf cynhwysiant.
- Mae’r cais yn cael ei dderbyn i’r llwybr niwroddatblygiadol, yna bydd y plentyn/person ifanc yn cael ei roi ar y rhestr aros am apwyntiad asesu.
- Caiff y cais ei dderbyn er y gallai fod angen mwy o wybodaeth ar gyfer arsylwadau pellach neu er mwyn casglu gwybodaeth i ddeall yr anawsterau. Yna bydd penderfyniad yn cael ei wneud ynghylch a oes angen asesiad.
- Efallai na fydd angen asesiad ar yr adeg honno, a byddwn yn cynnig cyngor ar ba argymhellion y teimlwn sy’n addas yn yr achos hwn.
- Os nad oes digon o wybodaeth, cysylltir â’r sawl a atgyfeiriodd yr unigolyn, a rhoddir gwybod pa wybodaeth ychwanegol sydd ei hangen.
ASESIAD A DIAGNOSIS
Mae pob plentyn yn unigryw, felly bydd pob asesiad yn wahanol.
Mae’r broses yn tueddu i fod yn hirach pan fo angen mwy o asesiadau.
Y nod yw gweld eich plentyn ar ôl i chi ddychwelyd yr holiaduron.
Byddwch chi a’ch plentyn yn cael eich gweld gyda’ch gilydd wyneb yn wyneb neu drwy fideo – os nad ydych am siarad am bethau anodd o flaen eich plentyn, dewch â rhywun gyda chi i ofalu am eich plentyn am ran o’r apwyntiad.
Gofynnir llawer o gwestiynau i chi fel y gallwn ddarganfod beth sydd wedi dylanwadu ar ddatblygiad eich plentyn.
- Gall dod i’r ysbyty godi ofn ar blant
- Bydd eu paratoi yn eu helpu i wybod beth i’w ddisgwyl a theimlo’n llai pryderus
Pethau defnyddiol i’w dweud wrthyn nhw:
- Bydd y meddyg am ddod i dy adnabod drwy gael gwybod am y pethau rwyt ti’n dda yn eu gwneud ac yn eu hoffi, a’r pethau rwyt ti’n eu cael yn anodd.
- Efallai y bydd yn dy holi am yr ysgol, cyfeillgarwch ac emosiynau
- Efallai y bydd y meddyg yn gwrando ar dy galon, ac yn gwirio dy bwysau a dy daldra ac yn holi am dy iechyd
- Fyddi di ddim yn cael dy orfodi i wneud unrhyw beth tra byddwn i gyd yn siarad gyda’n gilydd
- Cesglir gwybodaeth o holiaduron, cyfweliadau rhieni, sylwadau eich plentyn ac asesiadau penodol
- Cyfarfodydd Tîm Amlddisgyblaethol
- Cyfarfodydd Cyfuno a Dehongli Canfyddiadau lle rydym yn trafod yr holl wybodaeth sydd gennym ac yn ceisio gwneud synnwyr o’r hyn a allai fod yn dylanwadu ar anawsterau eich plentyn
- Mae diagnosis yn enw rydyn ni’n ei roi i rywbeth i’w esbonio neu ei adnabod
- Nid oes prawf syml sy’n ein helpu i nodi beth allai fod yn achosi anawsterau plentyn neu berson ifanc
- Mae ein hasesiadau yn seiliedig ar farn glinigol gofal
Ni fydd diagnosis yn newid rhywun nac yn newid eu hymddygiad, ond gall eich helpu i’w deall yn well a’u cefnogi yn y ffordd iawn.
Efallai y bydd eich plentyn neu berson ifanc yn cael diagnosis neu efallai na chaiff ddiagnosis, ond ein gobaith fydd eich helpu i ddeall ei anghenion.
Unwaith y bydd yr asesiad wedi’i gwblhau, efallai na fydd rôl bellach i ni, fodd bynnag, byddwn yn ceisio eich atgyfeirio i’r tîm neu’r gwasanaeth cywir i gefnogi eich plentyn neu berson ifanc lle bo hynny’n briodol.
Ar ôl cael asesiad, os nad oes unrhyw anghenion meddygol pellach, mae llawer o blant a phobl ifanc yn cael eu rhyddhau o’r gwasanaeth.