Beth allwch chi ei ddisgwyl
Weithiau gall pethau deimlo’n llethol iawn. Mae gan y dudalen hon gyngor, llinellau cymorth a dolenni i wasanaethau lleol os nad ydych yn siŵr sut i ymdopi.
Mae’n argyfwng arna i
Os ydych mewn argyfwng, mae’n bwysig cael help yn gyflym.
Os ydych wedi anafu eich hun yn ddifrifol neu wedi cymryd gorddos, ffoniwch 999 neu gael triniaeth feddygol ar unwaith mewn uned ddamweiniau frys ysbyty.
Os ydych mewn argyfwng, yn teimlo fel lladd eich hun neu fel na allwch ymdopi, siaradwch â rhywun ar unwaith a cheisiwch wneud yn siŵr nad ydych ar eich pen eich hun.
Os ydych eisoes yn gweithio gyda rhywun ym maes Lles Emosiynol ac Iechyd Meddwl, gallwch gysylltu â’r tîm neu eich cydlynydd gofal rhwng 9am a 5pm ar 02921 836730. Nid ydym yn wasanaeth argyfwng ond efallai y gallwn helpu.
Os nad ydych eisoes yn gweithio gydag un o’n timau, rydym yn argymell eich bod yn:
- siarad â’ch meddyg teulu a all roi cyngor a gwneud atgyfeiriadau i Les Emosiynol ac Iechyd Meddwl (gan gynnwys y gwasanaeth meddygon teulu y tu allan i oriau drwy ffonio swyddfa eich meddyg teulu a gwrando ar y neges), neu
- cliciwch ar y gwasanaethau isod am wasanaethau cymorth, cyngor a gwrando am ddim.
Mae angen i mi siarad â rhywun nawr
Cysylltwch â’r sefydliadau canlynol am gymorth ar-lein neu dros y ffôn:
Gallwch siarad â Childline am unrhyw beth rydych chi’n poeni amdano.
- Ffoniwch am ddim ar 0800 1111
- Mewngofnodwch am sgwrs un–i-un gyda chwnselydd
- Mewngofnodwch i anfon e-bost er mwyn cael ymateb o fewn 24 awr
Os ydych yn cael meddyliau am ladd eich hun neu’n pryderu am berson ifanc a allai fod, gallwch gysylltu â HOPELINEUK am gymorth cyfrinachol a chyngor ymarferol.
Ar agor 9 am – 10pm yn ystod yr wythnos, 2 pm – 10pm ar benwythnosau a gwyliau banc.
- Ffoniwch 0800 068 4141
- Tecstiwch 07860 039967
- E-bostiwch pat@papyrus-uk.org am ymateb o fewn 24 awr
Mae Meic Cymru yn llinell gymorth gwybodaeth a chyngor cyfrinachol ac am ddim ddwyieithog i blant a phobl ifanc.
Ar agor o 8am i hanner nos, 7 diwrnod yr wythnos.
- Ffoniwch am ddim ar 080880 23456
- Tecstiwch am ddim ar 84001
- Sgwrsio ar-lein
Cysylltwch â Samariad os oes angen rhywun i siarad â nhw arnoch.
- Galwch am ddim ar unrhyw adeg ar 116 123
- Gwasanaeth Cymraeg ar gael ar 0808 164 0123 rhwng 7-11pm bob dydd.
- E-bostiwch jo@samaritans.org i gael ateb o fewn 24 awr
Tecstiwch YM i 85258 i dderbyn cymorth argyfwng cyfrinachol am ddim 24/7 ar gyfer pynciau fel meddyliau am ladd eich hun, camdriniaeth, ymosodiad, hunan-niweidio, bwlio neu broblemau perthynas.
Gwasanaethau lleol sy’n gallu gwrando arnoch chi
Hyd yn oed os nad ydych mewn argyfwng, efallai y bydd yn ddefnyddiol o hyd i chi siarad â rhywun ynghylch sut rydych chi’n teimlo.
Pe byddai’n well gennych siarad â rhywun o Gaerdydd a Bro Morgannwg, rydym yn argymell yr adnoddau canlynol.
Sylwer nad gwasanaethau brys neu argyfwng yw’r rhain a dim ond yn ystod oriau gwaith y maent yn gweithredu.
- Ar gyfer Caerdydd: Cyngor a Chymorth i Deuluoedd Caerdydd 03000 133 133
- Ar gyfer Bro Morgannwg Llinell Gyngor Teuluoedd yn Gyntaf ar 0800 0327 322
- Gofynnwch i athro sut i weld nyrs eich ysgol.
- Gallwch hefyd eu tecstio ar Chat Health ar 07520 615718 rhwng 8:30am a 4:30 pm o Ddydd Llun i Ddydd Gwener
Gwybodaeth ac adnoddau
Dyma rai adnoddau a allai fod o gymorth pan fydd pethau’n teimlo’n llethol – cliciwch yma ar gyfer ein rhestr lawn o adnoddau.
Gall Beat eich cefnogi os ydych chi neu rywun rydych chi’n ei garu yn dioddef o anhwylder bwyta neu’n profi symptomau.
Mae’r llinell gymorth ar agor 365 diwrnod y flwyddyn, 9am – 8pm yn ystod yr wythnos, 4pm – 8pm ar benwythnosau a gwyliau banc.
0808 801 0433
Mae gwe-sgwrs un i un ar gael hefyd.
Defnyddiwch yr app hwn i wrthsefyll neu reoli’r awydd i hunan-niweidio drwy wahanol weithgareddau. Mae’r app yn un preifat ac wedi’i ddiogelu gan gyfrinair.
Mae’n rhan o Lyfrgell Apiau Iechyd Meddwl y GIG.
Mae Meic Cymru yn llinell gymorth gwybodaeth a chyngor cyfrinachol ac am ddim ddwyieithog i blant a phobl ifanc.
Ar agor o 8am i hanner nos, 7 diwrnod yr wythnos.
Ffoniwch am ddim ar 080880 23456
Tecstiwch am ddim ar 84001
Sgwrsio ar-lein
Os ydych yn 25 oed neu’n iau ac mewn argyfwng neu’n profi unrhyw emosiwn poenus, tecstiwch THEMIX i 85258 am gymorth argyfwng am ddim, 24/7.
Mae’r Gwasanaeth Cwnsela The Mix yn addas i chi os ydych yn chwilio am gymorth tymor byr gyda’ch iechyd meddwl a’ch lles emosiynol
Cwnsela dros y ffôn ar gael i bobl ifanc 25 oed ac iau. Mae Webchat ar gael i rai 10 – 18 oed.
Gwasanaeth gwybodaeth a chymorth i bobl LGBT+ ac unrhyw un sydd angen ystyried materion sy’n ymwneud â’u rhywioldeb neu eu rhyw.
Ar agor 10am – 10pm bob dydd.
Ffoniwch 0300 330 0630
Sgwrsio ar-lein
E-bostiwch chris@switchboard.lgbt am ymateb o fewn 24 awr