Beth allwch chi ei ddisgwyl
Mae camau y gallwn i gyd eu gwneud i ofalu am ein lles emosiynol.
Gall amrywiaeth eang o bethau effeithio ar ein lles emosiynol a’n cyflwr meddwl. Edrychwch ar y rhestrau isod i weld a oes unrhyw un o’r rhain yn berthnasol i chi.
Os ydych yn mynd drwy gyfnod anodd, rydym bob amser yn argymell eich bod yn siarad â rhywun rydych chi’n ymddiried ynddo am sut rydych chi’n teimlo a sut mae hyn yn effeithio arnoch chi.
Os nad yw’r awgrymiadau hyn yn gweithio i chi, efallai y bydd un o’n timau neu sefydliadau partner yn gallu eich helpu.
Gofalu am fy lles
Yr hyn sy'n digwydd gyda mi
Y pum ffordd at les
Mae pob un ohonom yn cael profiadau cadarnhaol a negyddol mewn bywyd – felly mae’n bwysig ymarfer ffyrdd o feddwl a gwneud gweithgareddau sy’n helpu i roi hwb i’ch hwyliau.
Mae tystiolaeth yn awgrymu bod cynnwys pum math o gam yn ein bywydau bob dydd yn bwysig ar gyfer lles:
1. Cysylltu â phobl eraill. Treuliwch amser gyda’r bobl o’ch cwmpas – gartref, yn yr ysgol neu eich cymuned leol
2. Bod yn actif yn gorfforol. Mae gwneud ymarfer corff yn gwneud byd o les i chi. Cadwch lygad am weithgaredd rydych chi’n ei fwynhau
3. Dysgu sgiliau newydd. Gosodwch ychydig o nodau i chi’ch hun ar gyfer yr hyn rydych am ei gyflawni. Rhowch gynnig ar ddysgu am rywbeth y mae gennych ddiddordeb ynddo neu rywbeth hollol newydd
4. Rhoi i eraill. Mae gwneud rhywbeth i berson arall yn gwneud i chi deimlo’n dda – gallai hyn fod gyda’ch ffrindiau neu’ch teulu, neu drwy wirfoddoli eich amser. Nid oes angen i chi wario arian – cymerwch amser i wrando arnynt a’u gwerthfawrogi.
5. Rhoi sylw i’r foment bresennol (Ymwybyddiaeth Ofalgar).Cymerwch amser i feddwl am yr hyn rydych yn ei wneud a sut rydych chi’n teimlo. Gall sylwi ar bethau eich helpu i feddwl am yr hyn sy’n bwysig i chi
Gwyliwch ein fideo isod neu ewch i wefan y GIG am fwy o wybodaeth.