Beth allwch chi ei ddisgwyl
Gall siarad am y problemau a’r pryderon yn eich bywyd fod yn anodd ar adegau.
Mae ein holl wasanaethau yn cynnwys gwrando, siarad a chydweithio i ddarganfod yr hyn sy’n digwydd a’r hyn a allai helpu.
Mae ein timau’n cynnwys gwahanol weithwyr proffesiynol sydd i gyd yn cynnig cymorth cyfeillgar i chi a’ch teulu heb farnu.
Gellir cael rhagor o wybodaeth am ein gwasanaethau isod:
Mae llawer o wasanaethau a sefydliadau ar draws Caerdydd a’r Fro sy’n cefnogi plant a phobl ifanc gyda’u lles emosiynol. Cliciwch yma i ddarllen rhagor.
Clinig Asesu Niwroddatblygiad
Mae’r asesiad yn canolbwyntio ar y plentyn cyfan a’i gryfderau a’i wendidau i ddarparu proffil datblygiadol. Yn ogystal ag archwiliad meddygol llawn, gellir asesu’r canlynol:
- galluoedd a photensial dysgu (gwybyddiaeth)
- sgiliau cymdeithasu a chyfathrebu da
- datblygiad lleferydd ac iaith
- sgiliau bywyd pob dydd a gweithredol
- pryderon ymddygiad ynglŷn ag ADCG ac Anhwylder Sbectrwm Awtistig
- sgiliau ar gyfer cynllunio echddygol a chydsymud
Ein nod yw gweithio’n agos gyda thîm lleol y plentyn fel bod gan bawb sy’n ymwneud â gofal eich plentyn yr un lefel o ddealltwriaeth o’i gryfderau a’i wendidau fel y gallant weithio ar y cyd i ddilyn yr argymhellion a wnaed yn dilyn yr asesiad. Bydd hyn yn cynnwys cysylltu â gweithwyr proffesiynol sydd eisoes yn ymwneud â chefnogi eich plentyn a gall gynnwys ymweliadau allgymorth â chartref ac ysgol y plentyn.
Plant a phobl ifanc hyd at 18 oed sydd ag anabledd deallusol hysbys, amhariad ar y synhwyrau neu gyflyrau meddygol cymhleth gan gynnwys syndromau, anomaleddau geneteg, epilepsi sefydlog a chamffurfiadau’r ymennydd lle mae’r cyflwr meddygol yn creu ansicrwydd diagnostig neu lle mae angen asesiadau ychwanegol ar y tîm lleol i ddeall anghenion y plentyn.
Rydym yn gweld plant a phobl ifanc â symptomau niwroddatblygiadol cymhleth, gan gynnwys y rheini lle mae diagnosis o Anhwylder Sbectrwm Awtistig yn cael ei ystyried. Rydym hefyd yn gweld plant lle mae pryderon am anhwylderau iaith, problemau ymddygiadol, problemau cydsymud ac echddygol ac anawsterau dysgu penodol.
Yn dilyn asesiad, gallai’r tîm ddarparu peth ymyrraeth neu gyfeirio at wasanaethau clinigol eraill neu wasanaethau cymunedol ar gyfer ymyrraeth.
Fel gwasanaeth cymunedol, mae gennym nifer o ganolfannau ar draws Caerdydd a Bro Morgannwg.
Mae’r rhain yn cynnwys:
- Ysbyty Dewi Sant (Caerdydd)
- Ysbyty Athrofaol Llandochau (Y Fro)
Ar hyn o bryd rydym yn derbyn ceisiadau am gymorth gan weithwyr proffesiynol gan gynnwys:
- Meddygon teulu
- Clinigwyr yn BIP Caerdydd a’r Fro
- Ysgolion
- Meithrinfeydd
- Rhieni lle mae’r plentyn/person iau yn cael ei addysg ddewisol yn y cartref
Credwn y dylai plant a’u teuluoedd fod wrth wraidd gwasanaethau cymorth, heb unrhyw rwystrau rhag cael gafael ar gymorth.
Sicrhewch fod y manylion cyswllt yr ydych yn eu rhoi i’r gweithiwr proffesiynol sy’n gofyn am gymorth i chi yn gywir. Rydym yn defnyddio’r rhain i gysylltu â chi. Os ydynt yn anghywir, efallai na fyddwch yn derbyn apwyntiad.
Os ydych am gysylltu â ni, gallwch ffonio 02921 836789 rhwng 9am a 5pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener (ac eithrio gwyliau banc).
Cofiwch nad gwasanaeth argyfwng yw hwn.
Clinig Adolygu ADCG
Nod y Clinig Adolygu ADHD yw darparu Therapi Gwybyddol Ymddygiadol i blant a phobl ifanc sydd wedi cael diagnosis o ADHD.
Mantais model y Clinig Adolygu ADCG yw ei allu i ddarparu triniaeth wedi’i thargedu ar gyfer plant â chyflyrau cydafiachus. Mae plant ag ADCG mewn mwy o berygl o gael anhwylderau gorbryder, anhwylderau cysgu, anhwylderau ymddygiad sy’n tarfu ar eraill, anhwylderau hwyliau ac anableddau dysgu penodol. Er bod llawer o blant sydd ag ADCG a chyflyrau cydafiachus yn ymateb yn ffafriol i feddyginiaeth adfywiol, efallai y bydd angen cynllun triniaeth mwy cynhwysfawr ar rai plant sy’n cynnwys therapi ymddygiadol neu therapi gwybyddol ymddygiadol a/neu ddefnydd atodol o feddyginiaeth nad yw’n adfywiol.
Clinig Arolygu Meddyginiaethau
Mae’r Clinig Adolygu Meddyginiaethau yn sicrhau bod pobl sy’n cymryd llawer o feddyginiaethau lluosog yn cael y sylw sydd ei angen arnynt. Mae naill ai’n sicrhau adolygiad trylwyr o’u holl feddyginiaethau i ystyried eu hiechyd cyffredinol, neu mae’n nodi unigolion sydd mewn perygl o niwed o ganlyniad i gymryd gormod o feddyginiaethau ac yn rhybuddio swyddfa eu meddyg i weithredu.
Gan fod ein gwasanaeth yn darparu meddyginiaethau yn rheolaidd, rydym yn gwneud yn siŵr bod y systemau ar gyfer presgripsiynau rheolaidd yn ddiogel ac yn drefnus. Nid ydym yn caniatáu i feddyginiaethau gael eu rhagnodi dro ar ôl tro heb archwiliadau rheolaidd i osgoi problemau posibl allai ddeilio o gymryd gormod o feddyginiaethau. Rydym yn canolbwyntio ar yr unigolyn, yn trafod ei anghenion gyda nhw neu eu gofalwr, ac yn eu cynnwys mewn penderfyniadau am eu meddyginiaeth.
Pan fydd hi’n amser rhoi’r gorau i gymryd meddyginiaeth, rydym yn cyfathrebu’n glir â’r person a phawb sy’n ymwneud â’r gofal iechyd proffesiynol er mwyn sicrhau trosglwyddiad esmwyth.
Clinig Cysgu
Mae ein clinig cysgu yn darparu diagnosis, cefnogaeth a thriniaeth i blant a phobl ifanc sy’n dioddef o amrywiaeth o gyflyrau cysgu.