Beth allwch chi ei ddisgwyl
Mae bywyd yn llawn newid.
Mae’n digwydd i ni i gyd! Rydym yn newid ein cartrefi, ein hysgolion, ein swyddi, ein ffrindiau – hyd yn oed ein dillad, gwallt a blas mewn cerddoriaeth.
Mae newid yn ein helpu i roi cynnig ar bethau newydd a chwrdd â gwahanol bobl. Pe na fyddai dim yn newid byth, byddai ein bywydau’n eithaf diflas!
Weithiau rydyn ni’n disgwyl newid. Mae hyn yn golygu y gallwn baratoi ar gyfer yr hyn sy’n newid a sut y gallai effeithio arnom.
Ar adegau eraill, mae newid yn annisgwyl – gall hyn deimlo’n frawychus gan na allwch baratoi ar ei gyfer i’r un graddau.
Fel person ifanc, gall sawl peth yn eich bywyd fod y tu hwnt i’ch rheolaeth, a all wneud newidiadau’n anodd eu deall ac ymateb iddynt.
Mae newid yn dod ag ansicrwydd ac weithiau cyfrifoldebau newydd. Weithiau mae angen i ni adael i’r gorffennol fynd neu ddysgu rhywbeth newydd.
Fel arfer mae rhaid i ni wneud addasiadau ar gyfer newid – fel dilyn llwybr gwahanol i gyrraedd ysgol newydd.
Gall y rhain i gyd ychwanegu straen ar ben eich bywyd arferol – yn ffodus mae llawer o bethau y gallwch eu gwneud i helpu i ddiogelu eich meddwl a’ch corff yn ystod cyfnodau o newid.
Efallai y bydd yn anodd cynnal eich lefel arferol o weithgarwch a’ch ymrwymiadau yn ystod cyfnodau o newid.
Cofiwch nad oes angen i chi wneud popeth – efallai y byddai’n ddefnyddiol gohirio rhai pethau nes i chi ddod i arfer â’ch sefyllfa newydd
Bydd trefn reolaidd yn helpu i fynd i’r afael â straen – bydd gwneud rhywbeth cyfarwydd a pheidio â gorfod meddwl amdano yn helpu i dawelu’ch meddwl.
Ceisiwch fod yn gyson – codwch ac ewch i’r gwely ar yr un pryd bob dydd.
Cymerwch ychydig o amser i feddwl am yr hyn y gallwch ac na allwch ei wneud mewn un diwrnod.
Bydd gweithgarwch corfforol yn helpu i leddfu straen – felly ceisiwch wneud amser ar gyfer hyn yn eich trefn arferol.
Gwnewch yn siŵr eich bod yn cael digon o gwsg – efallai y byddai trefn amser gwely ymlaciol yn helpu.
Dysgwch fwy yma am pam mae cwsg mor bwysig.
Cofiwch gymryd peth amser i ymlacio yn ystod y dydd. Treuliwch ychydig o amser yn gwneud yr hyn rydych chi’n ei fwynhau.
Peidiwch â bod ofn siarad am sut rydych chi’n teimlo – gallai hyn fod yn ffrindiau, brawd neu chwaer, rhieni neu hyd yn oed athro rydych chi’n ymddiried ynddo. Gall hyn eich helpu i weld pethau o safbwynt gwahanol a’ch helpu i ymdopi â’r newid mewn ffordd gadarnhaol. Efallai y bydd ganddynt gyngor defnyddiol neu gallant eich helpu yn ystod y cyfnod hwn.
Cofiwch – mae newid yn rhan o fywyd, felly mae gallu ymdopi â newidiadau yn sgil bwysig iawn.
Weithiau gall newidiadau mawr ar ben pethau eraill sy’n digwydd yn eich bywyd fod yn llawer i ymdopi ag ef.
Ceisiwch siarad â rhywun rydych chi’n ymddiried ynddo. Efallai y bydd un o’n timau yn gallu eich helpu i ddysgu sut i reoli’r hyn sy’n digwydd gyda chi.