Mae ein holl wybodaeth am Gysylltiadau Cymunedol ar un dudalen.

Cliciwch ar y dolenni isod i neidio i’r adrannau hynny.

Beth yw Cysylltydd Cymunedol?

Mae Cysylltwyr Cymunedol yn cefnogi rhieni a gofalwyr plant 0-11 oed trwy rannu gwybodaeth am eu taith ar y rhestr aros ac yn eu cyfeirio at wasanaethau lleol y gellir cael mynediad atynt heb ddiagnosis ffurfiol.

Beth Rydym yn Ei Wneud

Unwaith y bydd eich plentyn wedi’i dderbyn ar restr aros y Gwasanaeth Niwroddatblygiadol, bydd gennych fynediad at y digwyddiadau rhad ac am ddim canlynol.

Nid yw’r digwyddiadau hyn yn asesiadau. Maent yn cael eu cynnal i ddarparu gwybodaeth a chodi ymwybyddiaeth am anghenion Niwroddatblygiadol a’r cymorth sydd ar gael.

  • Wyneb yn wyneb
  • Cyflwyniad 15 munud (link to eng/welsh presentations canva link?) ar restr aros y
  • Gwasanaeth Niwroddatblygiadol, y broses asesu a gwasanaethau cymorth sydd ar gael
  • Stondinau gan yr Awdurdod Lleol, y maes addysg a gwasanaethau elusennol
  • Hysbysebir yma (link to events section)

  • Wyneb yn wyneb mewn ysgolion cynradd ac ystafelloedd cymunedol
  • Nid oes angen trefnu lle
  • Sgwrsio â Chysylltydd Cymunedol a gofyn cwestiynau
  • Hysbysebir yma neu drwy eich ysgol gynradd

  • Wyneb yn wyneb neu ar-lein
  • Cyflwyniadau gan weithwyr proffesiynol
  • Cyngor a strategaethau ymarferol
  • Ar bynciau fel rheoleiddio emosiynol, Therapi Galwedigaethol a SNAP Cymru
  • Hunangofrestru ar Eventbrite
  • Cliciwch ‘dilyn’ ar Eventbrite ac ni fyddwch byth yn colli digwyddiad newydd
  • Hysbysebir yma neu drwy eich ysgol gynradd

Cwrdd â’r Tîm

Sarah, Libby a Jo, y Cysylltwyr Cymunedol

Dyma Sarah, Libby a Jo, ein Cysylltwyr Cymunedol hyfryd!

Cysylltu â Chysylltydd Cymunedol

Os oes gennych gwestiwn ar ein cyfer ynghylch rhestr aros y Gwasanaeth Niwroddatblygiadol, y broses asesu neu wasanaethau cymorth sydd ar gael heb ddiagnosis:
Anfonwch e-bost atom: nd.communityconnections.cav@wales.nhs.uk a byddwn yn gwneud ein gorau i ateb eich cwestiwn neu eich cyfeirio at wasanaethau eraill o fewn 3 diwrnod gwaith.

Noder nad ydym yn derbyn ymholiadau am atgyfeiriadau, apwyntiadau asesu neu feddyginiaeth.
Ar gyfer y rhain, anfonwch e-bost at: Paediatric.NDTeam.Cav@wales.nhs.uk neu defnyddiwch y ffurflen gyswllt ar gyfer y Gwasanaeth Niwroddatblygiadol.

Adnoddau

Cyflwyniad

Rydym wedi creu cyflwyniad am y gwasanaethau a’r cymorth sydd ar gael yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg. Mae’n cynnwys codau QR a dolenni i’r gwasanaethau a’r cymorth y mae’r cysylltwyr cymunedol yn cyfeirio atynt yn ystod ein digwyddiadau.

Gweithgareddau Cynhwysol

Rydym wedi llunio rhestr o weithgareddau cynhwysol yn ardal Caerdydd a’r Fro.

Mae’r sesiynau hyn yn arbennig ar gyfer plant sydd ag Anghenion Dysgu Ychwanegol sy’n dod i’r amlwg neu sydd â diagnosis.

Mae’r rhestr hon yn cael ei diweddaru’n rheolaidd ond cysylltwch â’r gwasanaethau dan sylw cyn mynychu i gael y wybodaeth ddiweddaraf.

Gwasanaethau a Chymorth

Rydym wedi llunio rhestr o wasanaethau a chymorth sydd ar gael yn ardal Caerdydd a’r Fro.

Mae’r rhestr hon yn cael ei diweddaru’n rheolaidd ond cysylltwch â’r gwasanaethau dan sylw i gael y wybodaeth ddiweddaraf.

Gwefannau ac Apiau

Gweler prif wefan y Gwasanaeth Niwroddatblygiadol. Adnoddau i Rieni a Gofalwyr.

Fideo

Rydym wedi datblygu fideo sy’n rhoi gwybodaeth am rai o’r gwasanaethau sydd ar gael yng Nghaerdydd, Bro Morgannwg ac yn y ddwy ardal.

(Cliciwch yma i weld y fideo)

Digwyddiadau

Gweithdy Lles 15 Hydref 2024

Gweithdy Lles 19 Tachwedd 2024