Beth allwch chi ei ddisgwyl
Mae lefel yr angen am ein gwasanaeth yn cynyddu ac yn anffodus mae hyn yn arwain at amseroedd aros hirach i gael eich gweld. Ar hyn o bryd mae ein hamser aros tua 3 blynedd a hanner o’r dyddiad y byddwn yn derbyn atgyfeiriad.
Ymddiheurwn yn ddiffuant am yr oedi gan ein bod yn deall y rhwystredigaeth y gall hyn ei achosi a’r effaith y gallai ei chael. Tra byddwch yn aros am apwyntiad am asesiad, mae llawer o gefnogaeth ac adnoddau ar gael a allai ddiwallu anghenion a heriau eich plentyn a’ch teulu.
Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am adnoddau defnyddiol trwy’r dolenni hyn:
Ein harfer arferol yw eich hysbysu, yn ysgrifenedig, bod eich plentyn wedi cael ei dderbyn ar ein rhestr aros. Tra byddwch yn aros am asesiad, byddwn yn cysylltu â chi’n rheolaidd i dawelu eich meddwl bod eich plentyn yn dal ar ein rhestr aros a chyn gynted ag y bydd apwyntiad ar gael byddwn yn rhoi gwybod i chi.
Byddem yn gwerthfawrogi pob ymdrech i ddod i’ch apwyntiadau. Os nad ydynt yn addas, rhowch wybod i’n tîm ar Ffôn: 02921 836789 fel y gellir cynnig yr apwyntiad i rywun arall. Drwy wneud hyn, byddwch yn chwarae rhan fawr wrth wella ein hamseroedd aros ac yn ein helpu i gyflawni ein hymrwymiad i ddarparu’r gofal gorau a mwyaf amserol posibl.
I’n helpu i ganolbwyntio ein hymdrechion ar weld plant a phobl ifanc ar ein rhestr aros, byddem yn ddiolchgar pe gallech gysylltu â’r gwasanaeth dim ond os bydd cyflwr eich plentyn yn newid yn sylweddol. Fel yr ydym yn siŵr y byddwch yn ei ddeall, er mwyn sicrhau tegwch, yn gyffredinol nid ydym yn symud person ifanc i fyny’r rhestr aros nac yn gweld person ifanc yn gynt. Byddwn ond yn ystyried gweld person ifanc yn gynt os oes angen clinigol risg uchel sydd wedi’i gadarnhau gan weithiwr proffesiynol priodol.
Gwerthfawrogir eich amynedd a’ch dealltwriaeth yn ystod y cyfnod heriol hwn yn fawr.