Gall gwybod beth allwn ni ei wneud i ofalu amdanom ein hunain neu ble i fynd am gyngor ein helpu i deimlo’n well a chael gwell perthynas gyda’r bobl o’n cwmpas – heddiw ac yn y dyfodol. Mae’r tîm Niwroddatblygiadol wedi casglu ynghyd set o adnoddau i helpu gyda phroblemau y gall plant a phobl ifanc eu hwynebu sy’n cael eu cyfeirio i gael asesiad niwroddatblygiadol.

Nid yw’r adnoddau, yr apiau na’r llinellau cymorth hyn yn rhan o’r gwasanaethau a ddarperir gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro (oni nodir yn wahanol).

  • Nid ydym yn gyfrifol am y cynnwys allanol a grybwyllir ar y wefan hon.
  • Dylech bob amser ddarllen Telerau ac Amodau a Pholisi Preifatrwydd ap i weld sut y gallai eich data gael ei ddefnyddio.

Gorbryder

Mae pryder yn ymateb dynol naturiol i sefyllfaoedd sy’n achosi straen ac mae’n deimlad normal iawn.

Fodd bynnag, gall fod yn frawychus teimlo’n bryderus os nad ydym yn gwybod pam rydym yn teimlo fel hyn neu os yw’n para am amser hir.

Ewch i’n tudalen ni i ddysgu mwy.

Profedigaeth (mae rhywun sy’n agos ataf wedi marw)

Mae colli rhywun sy’n bwysig i chi yn un o heriau mwyaf bywyd, waeth beth fo’ch oedran. Gelwir hyn yn ‘brofedigaeth’.

Cymerwch olwg ar ein tudalen ar y wefan Lles Emosiynol ac Iechyd Meddwl am fwy o wybodaeth am sut y gallech chi deimlo yn ystod y cyfnod anodd hwn.

Bwlio

Bwlio yw pan fydd rhywun yn brifo’n gorfforol neu’n cam-drin person arall ar lafar. Gall gynnwys plagio rhywun yn ddiangen, gwneud i bobl deimlo’n ddrwg amdanynt eu hunain a gadael rhywun allan yn fwriadol.

Ewch i’n tudalen ar fwlio am fwy o wybodaeth ac adnoddau.

Addysg ac Ysgolion

Lles emosiynol

Mae lles emosiynol ac iechyd meddwl yn bwnc mawr iawn a gall effeithio ar bob un ohonom mewn gwahanol ffyrdd.

Mae llawer o adnoddau cyffredinol am les emosiynol bob dydd a allai fod yn ddefnyddiol i chi.

Helpu pobl ifanc eraill

Rydyn ni’n gwybod y gall fod yn anodd gwybod sut i ymateb pan fydd rhywun yn siarad gyda chi am ei iechyd meddwl. Edrychwch ar ein hadnodd isod i gael cyngor ar sut i ymateb.

LHDTC+

Nid yw bod yn LHDTC+ yn broblem iechyd meddwl, wrth gwrs – ond gallech wynebu rhai heriau ychwanegol a allai effeithio ar sut rydych chi’n teimlo.

Cymerwch olwg ar yr adnoddau LHDTC+ penodol isod a’n tudalen teimlo’n wahanol am fwy o wybodaeth.

Ymwybyddiaeth Ofalgar

Mae ymwybyddiaeth ofalgar yn ymwneud â dewis sylwi ar yr hyn sy’n digwydd ar hyn o bryd. Mae’n gyfle i gymryd seibiant o’ch pryderon a’ch helpu i deimlo bod gennych fwy o reolaeth o’ch emosiynau.

Dysgwch fwy am ymwybyddiaeth ofalgar yn ein hadran hunangymorth.

Perthnasoedd ac iechyd rhywiol

Gall perthnasoedd gael effaith fawr ar ein bywydau a sut rydyn ni’n teimlo.

Hunanddelwedd / hunan-barch

Hunan-barch yw sut rydyn ni’n meddwl amdanom ein hunain. Dysgwch fwy yma.

Meddyliadau hunanladdol

Mae angen help arna i nawr!

Siarad ag eraill

Pan fyddwch chi’n mynd trwy gyfnod anodd, mae cysylltu â phobl eraill yn bwysig iawn, hyd yn oed os nad ydych chi eisiau siarad â nhw am yr hyn sy’n digwydd gyda chi.

Ceisiwch barhau i siarad, tecstio, gwrando a holi eich ffrindiau a’ch teulu.

Olrhain eich hwyliau

Gall fod yn ddefnyddiol iawn olrhain sut rydych chi’n teimlo dros gyfnod o amser, yn ogystal â rhai o’r pethau a allai fod yn achosi i chi deimlo emosiynau gwahanol.

Rhowch gynnig ar yr apiau hyn isod i weld a oes unrhyw un ohonynt yn addas i chi. Efallai y byddai’n well gennych ysgrifennu hyn i lawr mewn dyddiadur.