Beth allwch chi ei ddisgwyl
Y Sesiwn
Nod y sesiwn hon yw annog dealltwriaeth o’r gwahaniaeth rhwng ‘Pyliau o Golli Rheolaeth’ ac ‘Ymddygiad sy’n cael ei Arwain gan Nod’ ac awgrymu rhai strategaethau am sut i reoli’r ddau. Byddwn yn archwilio sbardunau a allai arwain at bwl o golli rheolaeth, ynghyd â’r camau gwahanol y mae’n eu dilyn fel arfer. Ar ôl dod i ddeall hyn, byddwn yn mynd ymlaen i drafod y ffordd orau o gefnogi’r pyliau yn y cartref, allan yn y gymuned ac yn yr ysgol.
Behaviour Support Hub
Sefydlwyd Behaviour Support Hub yn 2014 gyda’r brif nod o rymuso rhieni a gofalwyr sydd â phlant ag awtistiaeth/ADHD neu sydd ar y daith i gael diagnosis. Dan arweiniad rhieni sydd â phlant sy’n niwroamrywiol, i rieni, ein nod yw cefnogi’r rhai sy’n defnyddio ein gwasanaeth i ddeall anghenion a heriau eu plentyn a rhoi strategaethau iddynt i gefnogi’r plentyn yn gadarnhaol.
I archebu lle defnyddiwch y ddolen hon
Os na fyddwch yn gallu bod yn bresennol – bydd y cyflwyniad ar gael ar wefan Awtistiaeth Cymru yn dilyn y sesiwn
Sylwer: mae’r sesiwn hon i rieni a gofalwyr yn unig