Beth allwch chi ei ddisgwyl
Hunan-barch yw sut rydyn ni’n meddwl amdanom ein hunain.
Pan fo gennym hunan-barch da, rydym yn teimlo’n gadarnhaol amdanom ni ein hunain a’n bywydau.
- Rydym yn gofalu amdanom ein hunain ac yn gofyn i eraill am help pan fydd ei angen arnom.
- Rydym yn teimlo’n barod i ymgymryd â heriau newydd a rhoi cynnig ar bethau newydd.
Pan fydd gennym hunan-barch isel, rydym yn beirniadol amdanom ni ein hunain a’n bywydau. Rydym hefyd yn teimlo’n llai abl i wynebu’r heriau y mae bywyd yn eu rhoi i ni.
Os ydych â hunan-barch isel, gallech:
- Beidio â hoffi eich hunain
- Poeni nad oes neb yn eich hoffi
- Teimlo’n hunanymwybodol neu’n isel eich hyder
- Teimlo’n ddiwerth neu ddim yn ddigon da
- Teimlo fel nad ydych yn haeddu bod yn hapus
- Ei chael yn anodd gwneud penderfyniadau neu i ddweud wrth eraill beth rydych yn ei feddwl neu’n ei deimlo
- Methu gweld eich cryfderau a’ch cyflawniadau
Mae pob un ohonom yn profi hynt a helyntion bywyd, ac mae’n arferol y bydd adegau pan fyddwch yn teimlo’n llai hyderus ynoch chi’ch hun.
Pan fo hunan-barch isel yn effeithio arnoch chi am amser hir, gall ddechrau effeithio’n negyddol ar eich lles emosiynol.
Beth sy’n achosi diffyg hunan-barch?
Gall llawer o bethau effeithio ar hunan-barch, gan gynnwys:
- Eich credoau am y math o berson rydych chi, yr hyn y gallwch ei wneud, eich cryfderau/gwendidau a’ch disgwyliadau ar gyfer eich dyfodol.
- Eich personoliaeth – mae rhai pobl yn fwy tueddol o feddwl yn negyddol, a gall eraill osod safonau uchel iawn iddynt eu hunain ac yna’n teimlo’n wael os na allant eu bodloni
- Pethau anodd neu llawn straen yn digwydd yn eich bywyd, fel marwolaeth anwylyn.
- Sut rydych chi’n meddwl eich bod yn gymharu ag eraill – gall cyfryngau cymdeithasol, teledu, cylchgronau a hyd yn oed pwysau gan ein ffrindiau a’n teulu wneud i ni fod eisiau edrych neu weithredu mewn ffordd benodol
Sut mae hunan-barch isel yn effeithio arnom ni?
Os oes gennych hunan-barch isel, efallai y byddwch yn osgoi pethau sy’n heriol i chi, rhoi cynnig ar bethau newydd neu guddio rhag sefyllfaoedd sy’n gwneud i chi deimlo’n ofnus.
Er y gallai hyn wneud i chi deimlo’n ddiogel yn y tymor byr, mae’n eich dysgu mai osgoi pethau yw’r unig ffordd o ymdopi.
Gallai hyn olygu eich bod yn colli cyfleoedd cyffrous wrth i chi symud trwy fywyd, fel mynd i’r coleg neu’r brifysgol, teithio i le newydd neu ddatblygu sgil newydd.
Gall byw gyda hunan-barch isel hefyd niweidio eich iechyd meddwl ac arwain at broblemau fel iselder a gorbryder.
Sut i feithrin hunan-barch iach
Mae llawer o bethau y gallwch eu gwneud i ofalu amdanoch eich hun a’ch helpu i deimlo’n fwy hyderus:
Mae’n bwysig i siarad â rhywun rydych chi’n ymddiried ynddo am sut rydych chi’n teimlo – mae cadw’ch teimladau i’ch hunan yn gallu gwneud pethau’n waeth.
Efallai y byddwch yn ei chael yn haws siarad â rhywun nad ydych yn ei adnabod, gan y gall eich helpu i weld pethau o safbwynt gwahanol.
Nodwch unrhyw feddyliau negyddol mewn dyddiadur a gofynnwch i chi’ch hun pryd dechreuoch chi neu beth wnaeth i chi feddwl fel hyn.
Yna ysgrifennwch ychydig o dystiolaeth sy’n herio’r gred negyddol hon, megis ‘Rwy’n dda wrth goginio ac yn defnyddio hyn i helpu fy nheulu’.
Gallwch ychwanegu pethau cadarnhaol eraill amdanoch chi’ch hun a phethau da mae pobl eraill yn eu dweud amdanoch chi.
Daliwch ati i ychwanegu at y rhestr hon o bethau cadarnhaol a’i chadw yn rhywle y gallwch ei weld i atgoffa eich hun o’r pethau da hyn pan fydd angen.
Rydyn ni i gyd yn dda wrth wneud rywbeth, boed canu, coginio neu fod yn ffrind neu’n frawd da.
Mwy na thebyg rydych yn mwynhau’r pethau rydych chi’n dda wrth eu gwneud – felly gwnewch nhw’n amlach i roi hwb i’ch hwyliau!
Gall bod yn rhan o grŵp ddatblygu ein hymdeimlad o’r hunan a chreu teimlad o berthyn.
Peidiwch â gadael i unrhyw un arall ddweud wrthych pwy dylech chi ei edmygu. Meddyliwch am yr hyn sy’n bwysig i chi.
Gallech newid pwy rydych chi’n ei ddilyn ar y cyfryngau cymdeithasol fel bod eich ffrwd yn bersonol iawn ac yn eich ysbrydoli!
A yw’r bobl y dewisoch dreulio amser gyda nhw yn dda i’ch hunan-barch?
Os yw rhai pobl yn tueddu i wneud i chi isel, ceisiwch dreulio llai o amser gyda nhw, neu dywedwch wrthynt sut roedd eu geiriau neu eu gweithredoedd yn gwneud i chi deimlo.
Mae llawer o bobl sy’n eich gwerthfawrogi am fod yn chi – ceisiwch dreulio mwy o amser gyda phobl sy’n eich helpu i deimlo’n fwy cadarnhaol!
Pan fyddwn yn teimlo’n isel, mae’n hawdd bod yn negyddol amdanom ein hunain
Ceisiwch fod yn garedig i chi eich hun. Sut byddech chi’n ymateb pe bai ffrind yn dweud y pethau hynny amdanynt eu hunain?
Gosodwch nodyn/neges atgoffa bob dydd i werthfawrogi tri pheth amdanoch chi’ch hun.
Bydd hyn ond yn cymryd ychydig funudau ond gall helpu eich hunan-barch yn fawr os gallwch ei wneud yn arferiad!
Mae pobl sydd â hunan-barch isel weithiau’n teimlo bod yn rhaid iddynt ddweud ie wrth bobl eraill hyd yn oed pan nad ydynt am wneud hynny. Gallai hyn wneud i chi deimlo’n grac, yn ddig ac yn isel.
Mae teimlo’n hyderus wrth ddweud na yn golygu eich bod yn gallu treulio mwy o amser yn gwneud y pethau sy’n eich gwneud chi’n hapus.
Gall rhoi cynnig ar bethau newydd wneud i ni deimlo’n nerfus. Mae pobl â hunan-barch iach yn teimlo’n hyderus wrth ymgymryd â heriau newydd gan nad ydynt yn gadael i’r teimladau hynny fynd yn eu ffordd.
Ceisiwch osod nod i chi’ch hun, megis mynd i ddosbarth ymarfer corff neu gyflwyno eich hun i rywun yn yr ysgol neu’r gwaith.
Bydd cyflawni eich nodau yn helpu i gynyddu eich hwyliau a’ch hunan-barch!
Adnoddau defnyddiol
Adnoddau i’ch helpu chi ac eraill a allai fod yn cael trafferth gyda’u hunanddelwedd