Beth allwch chi ei ddisgwyl
Rydyn ni i gyd yn teimlo’n ddig weithiau, ac yn aml am resymau da!
Ond gall dicter ddechrau bod yn broblem.
Weithiau rydym yn mynegi dicter drwy ymddygiad niweidiol, naill ai tuag atoch chi eich hun neu tuag at eraill.
Gall teimlo’n ddig fod yn frawychus ac yn anodd ei roi mewn geiriau.
Gall ddigwydd oherwydd eich bod yn teimlo’n ofnus neu dan straen. Gall ddigwydd hefyd oherwydd nad yw pethau’n digwydd fel yr oeddech yn meddwl y bydden nhw. Efallai y byddwch yn teimlo’n ddig ac nid ydych yn gwybod pam rydych chi’n teimlo felly.
Sut mae’n gwneud i chi deimlo?
Gall dicter ei gwneud yn anodd meddwl yn iawn.
Os ydych chi’n teimlo’n ddig yn aml, gall fod yn anodd edrych ar yr hyn sy’n gwneud i chi deimlo’n ddig a siarad am hynny ag eraill.
Gall dicter wneud:
- I chi deimlo ar bigau’r drain a chlensio’ch dannedd
- I’ch calon bwmpio’n gyflymach
- I’ch stumog gorddi
- I chi glenshio’ch dyrnau
Ar ôl mynd yn ddig efallai y byddwch yn teimlo’n euog am y peth. Gall hyn wneud i chi deimlo’n waeth.
Mae rhai pethau rydyn ni’n eu gwneud pan fyddwn ni’n ddig yn brifo pobl eraill a ni ein hunain. Os byddwch yn sylwi eich bod yn gwneud y mathau hyn o bethau’n rheolaidd, gall fod yn arwydd y byddech yn elwa o rywfaint o gefnogaeth:
- Cicio, taro a brifo pobl eraill
- Gweiddi ar bobl
- Torri pethau
- Colli rheolaeth
- Treulio amser gyda phobl sy’n eich cael i drafferthion
- Mynd i drafferthion yn yr ysgol
Sut galla i reoli fy nicter?
Mae’n iawn cymryd peth amser i feddwl am yr hyn sy’n eich gwneud yn ddig.
Efallai y byddai’n ddefnyddiol i chi gadw dyddiadur o’r hyn sydd wedi gwneud i chi deimlo’n ddig a sut y gwnaethoch roi’r gorau i deimlo fel hyn.
Byddai hefyd yn ddefnyddiol siarad â rhywun rydych chi’n ymddiried ynddo, fel eich rhieni / gofalwr, am sut rydych chi’n teimlo a sut mae’n effeithio ar eich bywyd.
Dyma rai awgrymiadau ar gyfer rheoli dicter:
Rhowch amser i chi’ch hun feddwl cyn ymateb. Ceisiwch anadlu’n ddwfn neu gyfrif i 10.
Mae cerdded i ffwrdd yn rhoi cyfle i chi gymryd amser i feddwl ac atal pethau rhag gwaethygu.
Beth ddigwyddodd? Sut gwnaethoch chi ymateb? Sut roeddech chi’n teimlo wedyn? A oes unrhyw beth sy’n eich cynhyrfu?
Efallai y byddwch yn ei chael hi’n ddefnyddiol ysgrifennu’r meddyliau hyn neu ddweud wrth rywun arall.
Siaradwch am sut rydych chi’n teimlo gyda rhywun rydych chi’n ymddiried ynddo, fel eich rhiant / gofalwr. Gall helpu i leihau’r straen.
Gwnewch rywbeth sy’n yn gwneud i chi deimlo’n wahanol i ddig – gallech fynd am dro, darllen llyfr neu wrando ar gerddoriaeth.
Gall gweithgareddau fel cerdded a nofio eich helpu i ymlacio. Gwnewch rywbeth rydych chi’n ei fwynhau!
Efallai bod hynny’n swnio’n syml, ond gwnewch eich gorau i eistedd i lawr ac ymlacio!
Sut galla i gael help?
Os ydych chi’n dal yn ei chael hi’n anodd rheoli eich dicter, efallai y byddwch am siarad ag arbenigwr am eich teimladau a’ch ymddygiad.
Darllenwch fwy am sut i gael mynediad i’n Gwasanaethau Lles Emosiynol ac Iechyd Meddwl.