Y Broses o Archebu Presgripsiwn

Mae’r Gwasanaeth Niwroddatblygiadol yn defnyddio platfform ar-lein i chi wneud cais am bresgripsiynau rheolaidd ar gyfer eich plentyn.

Sut i wneud cais am bresgripsiynau ar-lein

Caniatewch 5 diwrnod gwaith i’ch cais am bresgripsiwn gael ei brosesu. Byddwch yn derbyn neges destun pan fydd eich presgripsiwn yn barod i’w gasglu, dewch â cherdyn adnabod (ID) wrth gasglu’r presgripsiwn.

Os ydych yn glaf yng Nghaerdydd, bydd eich presgripsiwn yn barod i’w gasglu o Ganolfan Plant Dewi Sant. Os ydych yn glaf yn y Fro, bydd eich presgripsiwn yn barod i’w gasglu o Ganolfan Plant Llandochau.

Dewch ag ID wrth gasglu presgripsiynau os gwelwch yn dda.

Nod y broses hon yw gwella effeithlonrwydd, gan sicrhau bod y profiad o ddosbarthu’r presgripsiwn mor gyfleus a didrafferth â phosibl.

 

Mae’r ffurflen ar-lein yn rhoi gwybodaeth ynghylch amserlenni pryd y bydd presgripsiwn yn barod i’w gasglu ar ôl gwneud cais. Rydym yn argymell eich bod yn optio i mewn i’n hysbysiadau neges destun gan y bydd hyn yn eich hysbysu trwy neges destun pan fydd presgripsiwn yn barod i’w gasglu.

Gellir archebu profion gwaed dim ond os yw’r clinigwr wedi dweud bod angen un a byddant yn darparu’r wybodaeth ganlynol ar sut i archebu prawf gwaed yn ystod eich apwyntiad:

 

Adran Cleifion Allanol Plant Starfish

Ysbyty Plant Cymru

 

Ffoniwch 02920 843368 i drefnu eich apwyntiad rhwng 9am a 4pm – dydd Llun i ddydd Gwener

 

Os yw plentyn neu berson ifanc yn gyfforddus â chael gwaed wedi’i gymryd, efallai y cewch eich cyfeirio at y gwasanaeth fflebotomi sydd wedi’i leoli yn Ysbyty Dewi Sant Cleifion Allanol sydd ar gael o ddydd Llun i ddydd Gwener, 9am – 11am.

 

Bydd eich clinigwr yn cysylltu â chi os oes unrhyw annormaleddau y mae angen iddynt eu trafod gyda chi. Os yw’r prawf gwaed yn arferol, ni fydd y clinigwr yn galw, yn lle hynny fe’ch hysbysir naill ai trwy lythyr neu yn eich apwyntiad nesaf.

Gofynion Presenoldeb mewn Clinig Arsylwi

Mae’r clinigau hyn yn chwarae rhan hanfodol wrth fonitro cynnydd y plentyn/person ifanc ac addasu eu cynllun triniaeth yn unol â hynny. Gall peidio â mynychu arwain at y canlyniadau canlynol:

  • Peidio â chyflwyno’r presgripsiwn: Gall peidio â mynychu’r clinigau arsylwi gofynnol arwain at oedi wrth gyflwyno presgripsiwn.
  • Rhyddhau’r claf: Gall peidio â mynychu am gyfnod hir heb reswm arwain at ryddhau’r plentyn/person ifanc o’n gwasanaethau.

Clinigau Arsylwi sydd ar y gweill

Byddwn yn rhoi rhybudd ymlaen llaw ar gyfer pob clinig arsylwi, gan roi amser i chi drefnu eich apwyntiadau.

Os ydych yn cael unrhyw drafferthion gyda’r system gwneud cais am bresgripsiwn electronig neu os oes angen eglurhad arnoch o amserlenni’r clinigau arsylwi, mae croeso i chi gysylltu â ni ar 02921 836789.